Carol Teyrnged

Carol Williams

Hendre, Pentyrch.

1948 – 2022

 

Rydym yn dod ynghŷd heddiw i gofio gwraig, mam, mamgu a ffrind arbennig iawn ac i ddathlu bywyd, cyfeillgarwch a chyfraniad Carol.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae hi wedi brwydro afiechyd creulon gyda dewrder ac wedi parhau i roi gwên i ni drwy ei salwch.

Diolchwn i bawb sydd wedi rhoi gofal iddi – ei theulu, ei ffrindiau, Ysbyty Morgannwg a Chanolfan Cancr Felindre a Thŷ Hafod, Capel Llanilltern.

We come together today to remember and celebrate the life, friendship and contribution Carol made to our lives. Over the last two years she has bravely fought a cruel disease and continued to smile throughout her illness.

We thank all the people who helped to care for her – her family, her friends, Glamorgan Hospital, Felindre Cancer Centre and particularly the staff of Tŷ Hafod, Capel Llanilltern who have ensured that she has been comfortable and safe during her last weeks.  

Ganwyd Carol Prater yn Abertawe yn 1948. Roedd ei mam o Lansamlet a’i thad o Abertawe ac roedd ganddi un brawd hŷn, John, a fu farw yn ei dridegau.

Yn fuan symudodd y teulu i Gaerdydd ac roedd Carol yn un o’r dosbarthiadau cyntaf yn Ysgol Gymraeg Bryntaf.  Roedd wedi cadw mewn cysylltiad â nifer o’i chyd-ddisgyblion ac yn falch o gael y cyfle i ddathlu hanner can mlwyddiant addysg Gymraeg yng Nghaerdydd.

Uchafbwynt ei chyfnod ym Mryntaf oedd cymryd rhan yn y ddawns flodau yn Eisteddfod Caerdydd 1960.

Carol’s father, Ted, enjoyed being outdoors and so holidays were spent camping in the Gower and Caerfai, Ty Ddewi, with Ted’s sister, Mollie and family.  The conditions were primitive to say the least. When the family decided, one summer, to go on a car tour of Europe they found the facilities on the camp sites there to be far more luxurious and much warmer!

From Bryntaf Welsh language primary school Carol went to Cardiff High School for Girls. Where she made many new friends. One summer they went to work at Pontins, Paignton and enjoyed the Hi-de-Ho camp life.  

Carol enjoyed regularly meeting her group of Old Cardiff High School Girls and enjoyed their company and friendship.

Aeth ymlaen i Goleg Cyncoed ac astudio i fod yn Athrawes Ffrangeg gan wneud chwe mis o’r cwrs yn Tours, Ffrainc.

Carol particularly enjoyed the 50th anniversary celebrations of the 1966 intake to Cyncoed Teaching College and kept in touch with many of her college friends.

Ei swydd cyntaf oedd dysgu Ffrangeg yn Ysgol Gynradd Coed Glas Llanishen.

Yn ei hamser hamdden roedd yn dysgu Almaeneg ac yn rhan o fywyd Cymraeg y ddinas yn cynnwys Côr Aelwyd Caerdydd dan arweinyddiaeth Alun Guy.

Yno y cwrddodd â Penri oedd newydd orffen cwrs fel peiriannydd ac am ddechrau swydd newydd ym Mhwerdy Penfro.

Yn fuan iawn penderfynodd Carol y byddai hithau yn hoffi mynd i weithio ym Mhenfro a chafodd swydd yn dysgu Ffrangeg yn Ysgol Gyfun y Bush.

Cafwyd cyfnod braf yno yn rhan o Gôr Gogledd Penfro o dan arweinyddiaeth John S Davies. Priododd Carol a Penri ym mis Ebrill 1973 yng Nghaerdydd a chanu mewn cyngerdd y côr yn Hwlffordd ar noson eu priodas.

Symudodd y ddau i fyw i’r Hendre yn nhref Penfro a helpu i sefydlu Cylch Meithrin newydd yn y dref. Cafwyd cyfle i ddod i nabod nifer o gymeriadau’r sir drwy Gymdeithas Gymraeg Tref Penfro, Plaid Cymru a Merched y Wawr.

Yn 1975 symudodd y cwpwl i fyw i’r Creigiau ac aeth Carol yn athrawes Cymraeg i Ysgol y Ddraenen Wen, Pontypridd. Ymunwyd â Chôr Godre’r Garth a chael bod yn rhan o fwrlwm Capel y Tabernacl, Efail Isaf.

Ym 1977 ganwyd eu merch cyntaf, Llio ac yna ym 1979 daeth ail ferch, Awen. Roedd Carol yn ffodus i gael cyfnod hir yn magu’r merched a helpodd i gynnal Cylch Meithrin y Bronllwyn, Pentyrch ar ôl symud yno. Roedd yn falch o weld Llio ac Awen yn Graddio yn y Gymraeg ac yn dilyn gyrfaoedd yn hybu’r iaith.

Ail-gydiodd yn ei diddordeb o deithio a dysgu mwy am hanes a diwylliannau gwledydd eraill. Mae Llio ac Awen yn cofio treulio cyfnod o bob gwyliau tramor yn ymweld ag amgueddfeydd, adeiladau nodedig neu safleoedd archeolegol a blasu bwydydd gwahanol yn ogystal â chael nofio a chwarae yng nghynhesrwydd Môr y Canoldir.

Aeth yn ôl i ddysgu ym 1983 a bu’n athrawes Cymraeg yn Ysgol Gyfun yr Eglwys Newydd.

Carol achieved National fame as part of the group “The Welsh Rarebits”, formed by teachers at Whitchurch High School, who won the finals of the ‘Teacher’s Turn’ competition on BBC London’s ‘Saturday Superstore’. She enjoyed regular lunches. which went on well into the afternoon, with her old Whitchurch friends     

Penderfynodd ail-gydio yn ei haddysg a gwneud cwrs Gradd Allanol yn y Gymraeg yn Aberystwyth. Roedd yn gyfle i glywed mawrion y genedl yn rhoi o’u penwythnosau i ddarlithio i griw o fyfyrwyr hŷn. Graddiodd ym 1991.

Yna aeth yn Athrawes Fro yn teithio ysgolion Cynradd ardal Trefynwy yng Ngwent. Ac o ganlyniad i’w phrofiad yno ysgrifennodd y llyfr Beth yw’r Gair am? What’s the Welsh for? a gyhoeddwyd gan Wasg y Brifysgol i helpu plant ddysgu Cymraeg. Llyfr oedd ar ben siartiau gwerthiant y papur wythnosol Y Cymro am fisoedd yn 2002 ac sydd wedi ei ail-argraffu nifer o weithiau.

Bu’n athrawes Cymraeg i Oedolion a bu’n rhan o dîm arloesol wrth sefydlu’r cyrsiau sabothol cyntaf i ddysgu Cymraeg i Athrawon dan ofal Prifysgol Caerdydd. Ymddeolodd yn 2007 i ganolbwyntio ar deithio yn helaeth a chefnogi cymdeithasau’r ardal.

Bu’n un o sylfaenwyr Merched y Garth, côr aeth i’r brig yn y maes canu penillion o dan arweiniad Alwena Roberts a Menna Thomas. Un o’i hoff wyliau tramor oedd taith arbennig y côr, o dan arweinyddiaeth Llinos Swain, i Buenos Aires yna Esquel a’r Gaiman ym Mhatagonia yn 2005 a chael canu i Archentwyr Cymraeg y Wladfa.

Tra’n Gadeirydd Côr Godre’r Garth cafodd y fraint o ddiolch i Wil Morus Jones, a fu’n arwain y côr am 27 mlynedd, mewn rhaglen deledu arbennig ‘Diolch o Galon’.

Bu’n helpu Teulu Twm criw ifanc Capel Tabernacl a bu’n Ysgrifennydd Ymddiriedolwyr y Capel.

Roedd canu corawl yn rhan bwysig o fywyd Carol, ac roedd yn falch bod Llio ac Awen wedi ymuno â Chôrdydd a datblygu’r un angerdd at ganu. Roedd hi’n un o ddilynwyr brwd y côr gan fwynhau cwmni’r to ifanc o gantorion. Bu’n eu cefnogi ar deithiau o gwmpas Cymru ac i Efrog Newydd a’r Iwerddon.

Roedd yn aelod o Gôr y Mochyn Du o’r cychwyn dan arweinyddiaeth y diweddar Sioned James. Bu’n Gadeirydd pan enillodd Côr Hen Nodiant yn eisteddfodau Caerdydd a Llanrwst. Cafodd y fraint o ddiolch i Huw Foulkes am ddilyn Sioned ac arwain y côr i lwyddiant pellach.

Bu’n Llywydd Cangen y Garth, Merched y Wawr a Chadeirydd y Rhanbarth ac roedd am sicrhau llwyddiant pob achlysur.

Bu’n aelod brwd o Glwb y Dwrlyn, cymdeithas Gymraeg cylch Pentyrch, o’r cychwyn ac yn falch i fod yn rhan o ddathliadau 40 mlynedd y Clwb. Bu hefyd yn weithgar ar bwyllgorau Apêl Eisteddfodau Caerdydd.  

Carol enjoyed the company of her friends from many walks of life and appreciated the care of her neighbours in Pantbach and the village of Pentyrch. She would bump into many of her friends on her shopping trips in Cardiff and would take a keen interest in their families.  

Roedd yn gwerthfawrogi’n fawr ei chyfeillion yn ardal Pentyrch a Chreigiau ac wedi mwynhau eu cwmni ar deithiau di-ri yng Nghymru, yn sgïo ar lethrau’r Alpau ac yn teithio i ddinasoedd prydferthaf Ewrop. Bu’n aelod brwd o glwb llyfrau dethol gan wneud ei gwaith cartref yn drylwyr ar bob achlysur.

Roedd yn falch iawn o’i theulu, Awen, Llio a Mark a’i hwyresau, Gwen, Luned a Catrin. Gwelodd ei hwyresau’n datblygu i fod yn gymeriadau hoffus ac roedd ei phrofiad fel athrawes yn gymorth wrth iddynt ddechrau dysgu darllen a chyfrif. Gwerthfawrogodd cefnogaeth y teulu yn ystod cyfnod anodd iawn.

Mae ei cholli i’w deimlo ym mhell ac agos. Mae’r teulu am ddiolch i bawb sydd wedi danfon neges o gydymdeimlad gyda llawer o atgofion melys iawn o’i chyfeillgarwch. Roedd ei Chymreictod, ei chwerthiniad iach a’i diddordeb didwyll mewn pobl yn atseinio drwy’r negeseuon.

Roedd ei gwên yn parhau hyd y diwedd a byddai am i ni ddathlu a chofio ei bywyd llawn.