PEN-TYRCH Don Llewellyn 1990

PEN-TYRCH      Don Llewellyn

O ‘Rhwng Dwy Afon’ Llyfr Eisteddfod yr Urdd Taf-Elái 1991

Mae Mynydd y Garth yn edrych i lawr ar fro ddirgel. Rhyw ddydd caiff archeolegwr ei wobr os cymer sylw o’r arwyddion hynafol sy’n eu cynnig eu hunain. Mae pobl wedi byw yn ardal Pen-tyrch ers y cynoesoedd ond rhywsut ychydig o sylw a gafodd yr ardal gan haneswyr. Mae’n bosibl fod myfyrwyr wedi eu digalonni gan yr hen ddywediadau: ‘Rhwng gwŷr Pen-tyrch a’i gilydd’ a ‘Bit rhyddoch chwi wŷr Pen-tyrch!’

   Yn bendant mae Pen-tyrch wedi ymladd yn gryf ac yn ddewr dros y canrifoedd i gadw ei gymeriad arbennig. Yn ôl yr Athro Griffith John Williams, yr ysgolhaig adnabyddus, ‘bu Pen-tyrch erioed yn enwog am ei Gymreigrwydd, am ei sêl dros bopeth Cymreig. . . pan oedd yr ardaloedd cylchynol yn cael eu boddi gan fôr o Seisnigrwydd, parhaodd yr iaith yma yn hoyw ac yn dirf’. Tua phum mlynedd ar hugain yn ôl buasai’n deg dweud mai Cymraeg oedd iaith gyntaf yr hen frodorion i gyd, gydag amryw  o’r canol oed hefyd yn dal eu gafael ar y famiaith. Yr hyn sy’n anhygoel – yn sioc i bawb, wrth ystyried agosrwydd daearyddol y pentref i Gaerdydd – yw’r ffaith fod cofnodion Cyngor Plwyf Pen-tyrch yn ddwyieithog hyd at yr un-naw-saithdegau cynnar (sef amser y newidiadau mawr yng nghyfundrefn llywodraeth leol). Ers hynny, wrth gwrs, maent i gyd yn uniaith Saesneg.

   Yn gynnar yn y chwedegau roedd yr Athro ‘GJ.’ wedi’m hannog i fynd allan gyda recordydd sain i siarad â hen frodorion Pen-tyrch rhag i’r dafodiaith ddiflannu am byth; y dafodiaith a fu’n canu yn fy nghlustiau  o’r crud ond a wrthododd rywsut eistedd yn gyffyrddus ar fy nhafod. Bûm yn ddigon ffodus i ddod yn rhugl yng Nghymraeg gwerinol bro fy mebyd trwy garedigrwydd fy nghyd-drigolion. Yn awr mae gennyf gasgliad  o ddeuddeg awr  o leisiau fy mro ar dâp; lleisiau sy’n dangos tinc yr hen Wenhwyseg (curiad calon yr hen Ben-tyrch) yn llawer gwell nag y gallwn i. Mae’n bwysig cofio hefyd mai hon oedd y dafodiaith a siaredid gan ddegau o filoedd o Gymry hyd at hanner can mlynedd yn ôl – y Wenhwyseg sy’n perthyn i Ddwyrain Morgannwg a Gwent: iaith Merthyr Tudful, y Rhondda, Aberdâr, Maes-teg, Pontypridd, Bargoed, a Rhymni. Y Wenhwyseg a fu’n famiaith i lawer o gewri’r De: Dr William Price, Dic Penderyn, Islwyn, Dr Joseph Parry, Mabon ac yn y blaen.

   Mae i bob tafodiaith ei hynodion diddorol. Ym Mhen-tyrch ‘enllyn’ yw rhywbeth blasus i fwyta gyda bara; nid ‘glöwr’ sy’n gweithio dan ddaear  ond ‘gloiwr’. Ac nid hawdd nac esmwyth yw ystyr y gair ‘rhwydd’ – cyflym yw hwnnw. ‘Dera ’ma’n rhwydd bachan bech’ a ‘Duw, me fa’n gallu retag yn rhwydd!’ Nid Sioned yw Janet  ond ‘Shenad’. Mae’r Gogleddwr yn dweud ‘yndi, mae  o’; mae’r Gorllewinwr yn dweud ‘odi, ma fe’; ym Mhen-tyrch, ‘ODI, ME FA!’

   Wrth recordio llais Edmund Llewellyn (Emwnt Siedi, neu ‘Shedi’, oblegid Shadrach oedd enw ei dad-cu) gofynnais iddo a oedd ô’n cofio Twmws William. ‘Odw,’ medde fe, ‘wy’n cofio fa’n net. Roedd yn dŵad ’ma acha ceffyl acha Dy Sul  o Bontclown (hynny yw, Pont-y-clun). Roedd yn dicyn bech yn drwm  o glwad. Fe briotws a Shenad, merch Ianto Nant yr Arian, cefnithar Shoni bachan Aron ac yn wêr i William “tred clwm”.’

   Weithiau y dyddiau hyn mae’r dafodiaith yn destun gwatwar. Mae rhai yn chwerthin am ei phen wrth glywed y llafariaid yn culhau a’r cytseiniaid yn caledu. Ond, wrth gwrs, mae tebygrwydd (camarweiniol) rhwng ffurfiau’r Wenhwyseg a llefaru sir Drefaldwyn gyda ‘cêl’, ‘bêch’, a ‘glên’. . . a chyffelybrwydd â Gwynedd gyda ‘pocad’, ‘petha’, ‘ceffyla’, ‘bora’, ‘hanas’ ac yn y blaen.

    Mae’r lleisiau ar y tapiau yn gyrru’r gwrandäwr yn syth i’r gorffennol, at gyfnod lle roedd llai  o ffwdan a ffysg. Mae llawer o sôn am gymeriadau lliwgar, yn eu plith feirdd gwlad, cantorion, ymladdwyr, helwyr ac arwyr y cae rygbi. Doedd dim testun gwell na gorchestion tîm rygbi Pen-tyrch i droi sgwrs yn sgarmes, ond wrth gwrs, yn yr ardal hon, ‘y dêm’ oedd hi ac nid ‘y tîm’. ‘Têm  o geffyla’ yw’r tarddiad. Pan oedd y bechgyn yn chwarae rywle yng Nghaerdydd roeddynt yn cael eu hystyried yn estroniaid oherwydd eu hiaith a’u hymarweddiad drygionus. ‘The Welshies are down from the hills’ oedd y gri. Dim ond chwe milltir i ffwrdd  ond roedd yn fyd gwahanol!

    Wrth baratoi hanes Clwb Rygbi Pen-tyrch fe ddes ar draws penillion proffwydol iawn, a gyfansoddwyd gan fy hen dad-cu ac a gyhoeddwyd yn Y Gwladgarwr ym 1852:

 

Ac yn eu canlyn gwelaf
Rhyw dorf o’r ieuenctid harddaf.
Tri phump  o feibion glewion glwys
A’r stori’n ddwys ystyriaf.

 

   Tybed pa iaith oedd yn cael ei siarad yn yr ardal pan godwyd y gromlech ar ben Mynydd y Garth ym more’r oes dros dair mil o flynyddoedd yn ôl? Yn wir roedd y diriogaeth ym meddiant dynion rywfaint cyn hynny. Mewn ogofau lleol mae pennau bwyeill callestr wedi eu darganfod ynghyd ag olion dynol eraill. Honnir bod gwersyll Rhufeinig ym Mhen-tyrch yng nghyfnod Awgwstws Cesar. Mae digon  o dystiolaeth bod gwythiennau cyfoethog  o fwynau amrywiol yn cael eu ceibio yno yr adeg honno.

   Ar ddiwedd y bumed ganrif roedd Pen-tyrch fel pob cwr a chornel arall  o Forgannwg yng nghanol deffroad crefyddol. Daeth Catwg, un  o ffigurau mwyaf pwysig yr Eglwys Geltaidd gynnar i’r ardal a sefydlodd ‘gaethbentref’ ger ffynnon yno. Fe’i gelwir yn Ffynnon Catwg hyd heddiw a Nant Gwladus (wedi ei henwi ar ôl mam Catwg) yw’r ffrwd sy’n dal i redeg ohoni.

   Nid oedd pawb  o olynwyr Catwg Sant yn y pentref yn haeddu cymaint  o ganmol â’r dyn da hwnnw. Bechgyn drwg oedd rhai ohonynt i ddweud y lleiaf! Er enghraifft, oni bai am frad Iestyn ap Gwrgant (a oedd yn byw mewn palas yn Hendrescythan) ni fyddai’r Normaniaid wedi goresgyn Morgannwg mor ddidrafferth! Cytundeb rhwng Robert FitzHamon ac yntau oedd y prif reswm am lwyddiant y goresgynwyr – os gellir ei alw’n llwyddiant. Yn ôl traddodiad lleol doedd dim ildio ar y tir uchel.

    Ffaith ddiddorol yw bod grisiau hynafol wedi eu darganfod y tu ôl i wal yn ffermdy Pantygorad – dringfa sy’n perthyn i’r ddeuddegfed ganrif. Mae’r nenfwd uwchben y grisiau yn werth ei weld: meini bach wedi eu plethu’n gywrain – campwaith pensaernïol o’r Oesoedd Canol.

   Yn ystod teyrnasiad Elisabeth I cafodd trosedd fradwrus ei chyflawni gan berchennog Gwaith Haearn Pen-tyrch. Bu Edmund Mathew yn gwerthu drylliau a phelau cyflegr i’r Sbaenwyr am ugain mlynedd hyd iddo gael ei rwystro gan orchymyn y Cyfrin Gyngor yn y flwyddyn 1602. Ni wn a oedd gan Edmund gydymdeimlad ag achos Sbaen; mae’n debygol mai menter fasnachol lwyr ydoedd.

   Un  o’n cyn-drigolion gwir ganmoladwy oedd John Jones (Siôn Matthew). Cafodd ei eni yn Llwynda-ddu, Pen-tyrch yn y flwyddyn 1645. Dangosodd addewid cynnar fel ysgolhaig a chafodd ei dderbyn gan Goleg Iesu, Rhydychen pan oedd yn ddwy ar bymtheg oed. Yn fuan fe ddaeth yn Gymrawd  o’r coleg hwnnw. Wedi graddio’n gyntaf yn y Celfyddydau daeth wedyn yn Ddoethor yn y Gyfraith. Gweithiodd fel meddyg yn Windsor ac ym 1691 penodwyd ef yn Ganghellor Llandaf. Yn sicr, fe gafodd gydnabyddiaeth fel athrylith yn ei oes. Ym 1683 cyhoeddodd draethawd yn Lladin ar glefydau, a thua 1700, yn ôl llyfr Plot, The Natural History of Oxfordshire, dyfeisiodd gloc a gâi ei weithio gan awyr yn pasio trwy feginau lledr. Trist yw’r ffaith bod John Jones wedi’i lwyr esgeuluso gan haneswyr gwyddoniaeth yng Nghymru.

   Ym Mhen-tyrch fel ym mron pob cymuned arall ym Morgannwg rhoddwyd blaenoriaeth i faterion addysgol. Diddorol yw nodi mai ym Mhen-tyrch yr oedd un o Ysgolion Cylchynol cyntaf Griffith Jones a hynny ym 1738. Ym mhedwardegau’r ganrif ddiwethaf cafodd yr ysgol leol ymweliad gan gomisiynwyr y ‘Llyfrau Gleision’.

   Atgofion niwlog sydd gennyf i o’r addysg a gefais yn ysgol bentre Pen-tyrch. Teml i addoli arwyr hanes Lloegr oedd hi yr adeg honno, beth bynnag, lle dysgais am Robin Hood a Hereward The Wake, Drake a Nelson, Wellington a William Pitt. Fawr  o ddim am hanes Cymru. Felly, hoffwn gael fy ystyried yn un  o fethiannau mwyaf llwyddiannus yr ysgol honno! Ond mae’n rhaid i mi gyfaddef fod gennyf atgofion melys hefyd.

   Ni all dim fod yn fwy torcalonnus na gweld bro wedi colli ei thraddodiadau a phob cof am y pethau a fu. Mae’n dda gennyf weld y ffordd y mae’r ysgolion lleol heddiw yn ennyn diddordeb y plant ym mywyd ac yn hanes eu hardal. Trueni fod cymaint a oedd yn ddiddorol wedi diflannu yn ystod y gorffennol agos. Mae’r atgofion sydd gennyf am y pethau cwbl-Gymreig a oedd yn rhoi blas fy nghenedl ar fy nghof yn amhrisiadwy. Er fy mod yn perthyn i’r genhedlaeth honno a welodd ddirywiad yr iaith, pleser mawr ydyw cofio’r dylanwadau cynnar. Atgof sy’n dod yn ôl yn gryf yw fy ngolwg cyntaf o’r ddau frawd Twm a Shoni a’u ‘cyfeillion diniwad’ yn cyrraedd gyda’r Fari Lwyd; llais tenor Twm yn canu’r hen dôn –

mae’n dal i rewi fy esgyrn hyd heddiw:

 

Mae gen i hen Fari – y lana yn Gymru. . .
y lana yn Gymru nos heno. . .

A llais y baswr Dai Jones yn ateb:

Does gen ti ddim Mari . . .hen fwlsyn
sy gennyt ti. . . a stwffa’r hen recsyn. . .

 

Rwy’n falch o ddweud mai’r pen ceffyl a ddefnyddiwyd gan Twm a Shoni sydd yn awr yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.

   Y King’s Arms oedd pencadlys lleol cymdeithas ‘Yr Odyddion’. Ar nenfwd yr ystafell fawr roedd symbol mewn cylch o bren: llygad mawr a syllodd i lawr ar genedlaethau o yfwyr am dros gant a hanner o flynyddoedd. O amgylch y llygad, y geiriau:

 

Llygad i weled,
Llaw i gyfrannu,
Calon i deimlo.

 

   Yr oedd Cymraeg yn ei phurdeb o’n cwmpas ym mhob man; enwau bendigedig ar y ffermydd, y nentydd a’r caeau, enwau fu’n canu ar hyd y canrifoedd ac sydd heddiw mor swynol ag erioed: Nant Cwmllwydrew, Pebyll y Brain, Dwyerw Llwynyreos, Coed Rhiwceiliog, Craig Ffynnon Gog ac ati.

   Cofiaf Twmws Crydd yn esbonio tarddiad enw fferm Llwyn-y-brain. Stori oedd ganddo am fachgen bach oedd yn gwarchod y llafur (yr ŷd) rhag yr adar. Roedd y crwt yn defnyddio dryll wedi ei lenwi â hoelion yn lle ‘shots’. Pan welodd y brain yn y coed, saethodd atynt. Fel roedd yr hoelion yn mynd trwy goesau’r brain roedd yr adar yn cael eu glynu’n sownd ar y canghennau. Wrth i’r adar hedfan i ffwrdd tynnwyd y coed o’u gwreiddiau. Glaniodd y llu gyda’u llwythi enfawr mewn cae yn Swydd Henffordd lle roedd da (gwartheg) brown yn pori. Cafodd y da gymaint o sioc aeth eu hwynebau’n wyn. Felly fe grewyd brid newydd!

   Mae bod yn olaf o linell hir o Wenhwyswyr – ar ddiwedd cyfnod fel petai – yn gyfrifoldeb arswydus. Ond rwyf yn hyderus fod y dylifiant o waed newydd sydd wedi cyrraedd y gymuned yn creu gobaith newydd. Yr wyf yn falch o fod yn ddolen gyswllt rhwng y gorffennol a’r dyfodol. Heb amheuaeth mae adlais yr hen amser yn aros; ar bob awel mae hen ysbrydion yn sibrwd ac ar bob pelydr haul cewch gip ar anturiaethau’r cyn-bentrefwyr. Credaf eiriau Mrs Morfudd Thomas a ddywedodd wrthyf: ‘Er diffodd y golau, erys gwres y fflam’.

Pentyrch History

Pentyrch History

Fortunately a number of local people have collected together information and pictures about the area. Particularly Barry Davies and Don Llewellyn have over the years documented a vast amount of local history. This information has been published by the Pentyrch Local History Society and Llantrisant Historical Society and Pentyrch Community Council. Here is a small selection of this history.

Pentyrch History 1976

Looking into the Past

Horeb Chapel,  Pentyrch

Humour in the Hills, Don Llewellyn

Pentyrch and the 1859 Revival

A Chapel Nicknamed Philadelphia

Further information from

Pentyrch & District Local History Society

Llantrisant and District Local History Society

Pentyrch Community Council

 

Y Fari Lwyd

Y
Fari Lwyd

Mari Lwyd Pentyrch

Seremoni o fynd â phenglog ceffyl wedi ei addurno efo rhubanau a’i wisgo mewn cynfas wen yw’r “Fari” – ac mae ‘na amrywiaethau ar y math hwn o weithgaredd tu allan i Forgannwg – i gyd yn gysylltiedig â chyfnod rhwng y Nadolig a’r Ystwyll. Y gred gyffredinol yw bod yr arferion yn mynd yn ôl i gyfnodau paganaidd – i gyd fynd ag “ai1-eni’r haul” sef y cyfnod pan fydd y dydd yn ymestyn.

Hanner can mlynedd ar ôl i draddodiad “Y Fari Lwyd” ddod i ben ym Mhentyrch a’r Creigiau, mae’r pentrefwyr wedi atgyfodi’r arferiad (yn 1997). Mae gan y Fari ei gosgordd swyddogol – ac mae’r rhain yn amrywio o ardal i ardal. Ond mae yno bob amser un sy’n “tywys” y ceffyl, sef y Sarjiant. Yn naturiol mae un person o dan y clogyn gwyn ac mae hefyd nifer o bobl eraill yn cyd-gerdded efo’r Fari o dy i dy ac o dafarn i dafarn.

Y drefn ydi fod raid i’r parti ganu pennill tu allan i ddrws y lle mae nhw am gael mynd i mewn iddo ac yna fe fydd rhywun yn ateb o’r tu mewn, eto ar ffurf pennill. Mae nhw’n herio ei gilydd bob yn ail, hyd yn oed ar ôl i’r parti gael dod i mewn i’r tŷ – ac yn y gwreiddiol roedd y penillion yn cynnwys geiriau yn y Wenhwyseg, sef tafodiaith yr ardal ac ardal “Y Fari”. Penglog “Y Fari” o Bentyrch sydd i’w gweld yn Sain Ffagan, rhodd gan Twm a Shoni Caerwal.

Mae’r arferiad wedi bod ar ei gryfaf yn ardal Llangynwyd, ger Maesteg. Mae ‘na seremonïau tebyg yn Sir Benfro, ond fod y pen ceffyl yn wahanol yno, chwe ardal yn Lloegr, rhai yn yr Iwerddon, Gwledydd Llychlyn, Awstria, Rwmania a Gwlad Pwyl a’r Almaen.
 

Cân y Fari Lwyd (Pentyrch)

(Oddi allan)

Wel dyma ni’n dwad
Gyfeillion diniwad
I ofyn am gennad i ganu.

Os na chawn ni gennad,
Cewch glywed ar ganiad
Beth fydd ein dymuniad-nos heno.

Agorwch y dryse,
Mae’r rhew wrth ein sodle,
Mae’r rhew wrth ein sodle-nos heno.

Os oes gennych atebion,
Wel, dewch a nhw’n union
I ateb prydyddion y gwylie.

(Ateb oddi mewn)
O, cerwch ar gered,
Mae’ch ffordd yn agored,
Mae’r ffordd yn agored-nos heno.

(Oddi allan)
Nid ewn ni ar gered
Heb dorri ein syched,
Heb dorri ein syched-nos heno.

(Oddi mewn)
Mae ffynnon yn tarddu
Ym mhistyll y Beili,
Trwy ffafwr cewch lymed i brofi.

(Oddi allan)
Nid yfwn o’r ffynnon
I oeri ein calon
I fagu clefydon-y gwylie.

(Oddi mewn)
Rhowch glywad, wyr doethion,
Pa faint y’ch o ddynion
A beth yn wych union, (x3) yw’ch enwau

(Oddi allan)
Rhyw bump o wyr hawddgar ,
Rhai gorau y ddaear
Yn canu mewn gwir air (x3) am gwrw

(Oddi mewn)
Os llymaid bach melys
A geisiwch dros wefus
Dewch atom yn hwylus (x3) i’r aelwyd

 

 

Tu Fewn:

Y Parti:
Mae Mari Lwyd lawen
Yn dod i’ch ty’n rhonden
A chanu yw ei diben, mi dybiaf.

Yr Ateb:
Rhowch glywad wyr difrad
O ble rych chi’n dwad
A beth yw’ch gofyniad gaf enwi.

Y Parti:
O ardal Y Creigiau,
Pentyrch a’r cyffiniau
Fe ganwn ein geiriau am gwrw.

Yr Ateb:
Derbyniwn yn llawen
Ymryson yr awen
I gynnal y gynnen drwy ganu.

Y Parti:
Mi Ganwn am wythnos
Ac hefyd bythefnos
A mis os bydd achos baidd i chwi.

Yr Ateb:
Mi Ganwn am flwyddyn
Os cawn Dduw i’n canlyn
Heb ofni un gelyn y gwyliau

Y Parti:
Gollyngwch yn rhugil
Na fyddwch yn gynnil
O! Tapiwch y faril i’r Fari

Yr Ateb:
O! Cenwch eich nodau
Ac felly wnawn ninnau
A’r sawl a fo orau gaiff gwrw

Y Parti:
Fe ganwn yn awr
I Ferched y Wawr
Am ddiod ac enllyn i’n llonni.

Yr Ateb:
I’r Fari sychedig
Fe rown ein calennig
A’r cwrw yn ffisig i’w pheswch.
Y Parti:
Derbyniwn yn llawen,
Y croeso mewn casgen
Cyflawnwyd y diben mi dybiaf. 

 


 Mari Lwyd 1997

 

Mari Lwyd 2005

 
i) Rhai o’r geiriau y mae Don Llywelyn, yn eu cofio o benillion Twm a Sioni, Caerwal, Pentyrch. Mae’r rhain o leiaf hanner cant oed – ac yn debygol o fod yn henach o lawer na hynny.

Wel dyma ni’n dwad
Gyfeillion diniwad
I ofyn am gennad (x3)
I ganu……..

Mae gen i un Fari
Y lana yng Nghymru
Y lana yng Nghymru (x3)
nos heno

Does gen ti ddim Mari
Hen fwlsyn sy gen ti
Hen fwlsyn sy gen ti (x3)
nos heno

O beth yw dy switan
‘Rhen Sioni cap sitan
‘Rhen Sioni cap sitan (x3)
nos heno

O stopwch eich sgrechan
Ei llefan a’i thechan
A hitha mor fechan (x3)
nos heno

Mae’th gegaid o eiria
Fel ffrwd o raiadra
Ro ben ar gelwydda (x3)
nos henoO stwffa’r hen ffilcas
I eneu’r ffilogas
A dos nol i’r syrcas (x3)
nos heno.
   
 

 
Clwb y Dwrlyn Pentyrch

Y Fari Lwyd (gair bach o gefndir)

Gan fod ‘na hanes am drigolion ardal Pentyrch yn dilyn “Y Fari Lwyd” hyd ymron i hanner can mlynedd yn ôl, nid yw’n syndod fod Clwb y Dwrlyn wedi adfer yr hen arferiad a mynd a’r Fari rownd y pentref ers rhai blynyddoedd.

Seremoni o fynd a phenglog ceffyl wedi ei addurno gyda rhubannau a’i wisgo mewn cynfas wen yw’r “‘Fari” – ac mae ‘na amrywiaethau ar y math hwn o weithgaredd mewn sawl ardal yn Ne Cymru a thu hwnt – i gyd yn gysylltiedig a chyfnod rhwng y Nadolig a’r Ystwyll. Y gred gyffredinol yw fod yr arferion yn mynd yn ôl i gyfnodau paganaidd – i gyd-fynd ag “ail-eni’r haul” a’r adeg pan fydd y dydd yn ymestyn.

Mae gan y Fari ei gosgordd swyddogol – ac mae’r rhain yn amrywio o ardal i ardal. Ond mae yno bob amser un sy’n “tywys” y ceffyl, sef y Sarjiant. Yn naturiol mae un person o dan y clogyn gwyn ac mae hefyd nifer o bobl eraill yn hebrwng Y Fari o dy i dy ac o dafarn i dafarn. Weithiau fe gewch chi’r Meriman gyda’i ffdil; y Cadi a’r Bili sef dyn wedi ei wisgo fel merch; Cariwr y Fedwen; a’r Pwnsh a’r Jiwdi.

Y drefn oedd fod disgwyl i’r parti ganu pennill tu allan i ddrws y dafarn neu’r ty yn gofyn am gael mynediad. Yna fe fyddai rhyw-un yn ateb o’r tu mewn, eto ar ffurf pennill. Y gamp oedd herio ei gilydd bob yn ail, hyd yn oed ar ôl i’r parti gael dod i mewn i’r ty. Roedd penillion gwreiddiol yr ardal hon yn cynnwys llawer o’r dafodiaifh leol. – Y Wenhwyseg.

Mae’r arferiad wedi bod ar ei gryfaf yn ardal Llangynwyd, ger Maesteg. Ceid seremoniau tebyg yn Sir Benfro (ond fod y pen ceffyl yn wahanol yno), chwe ardal yn Lloegr, rhai yn yr Iwerddon, Gwledydd Llychlyn, Awstria, Rwmania, Gwlad Pwyl a’r Almaen.

Penglog “Y Fari’ o Bentyrch sydd i’w gweld yn Sain Ffagan – rhodd gan Twm a Shoni Caerwal. Ond mae gan ein hanesydd lleol, Don LIywelyn, stori neu ddwy i’w hadrodd ynglyn a’r penglog hwnnw sydd yn y amgueddfa a’i Lofty, Ton Mawr, neu ai un o ddau farch Cefn Colstyn, Charlie neu Prins sydd yno? A phwy tybed a’i cododd e o’i fedd ar noson dywyll!

Clwb y Dwrlyn Pentyrch

The Mari Lwyd Tradition (a few background notes)

Opinions differ on the origin of the “Mari Lwyd” custom. – some believe it is linked to pagan times, a bringer of good luck and fertility at the “re-birth of the sun” when the days lengthen. Others link the name to the Virgin Mary and the escape to Egypt, some simply believe its the “Grey Mare or Marie” (the Saxon pronunciation of “mare”). Even the name of Morris dancing may be from the same source.

The tradition was very much alive in the county of Glamorgan and was still practised in this village just over half a century ago (in the 1940’s). In fact the horse’s head on show at the Museum at St Fagans came from Pentyrch. That is partly why Clwb y Dwrlyn revived the custom of following “Y Fari Lwyd” around the area at this time of year.

The party aiways included a “Sergeant” to lead the horse and more often than not, ”Punch and Judy”. Often the “Merryman” would be there to play his fiddle and the “Cadi & Billy” would be a man dressed as a woman. They roamed the village challenging the householders and innkeppers in “question and answer” verses before entering the house. These “sparring” sessions could run to three dozen verses – today we’ll spare yau all that and sing only a few, a mixture of the traditional and a few millennium “specials”. Having sung, danced and teased the occupants, the party usually sat down to food and drink before moving on.

Similar customs involving a “horse’s head” have been recorded in Ireland, Austria, Romania, Iceland, Germany, Scandinavia and at least six areas of England. They inctude Thanet (Kent), Minehead (Somerset), Wiltshire, Cheshire and Cornwall.

Clwb Y Dwrlyn has revived the custom around Creigiau and Pentyrch and escort “Y Fari Lwyd” closer to the “Hen Galan” (January 13th), the “Old New Year’s day” still celebrated in West Wates because of the eleven days “lost” when our calendar was changed in 1752.

The words on this page are the ones Don Llywelyn recalls from the days when “Twm & Shoni”, Caerwal, Pentyrch, led the Mari around the area.

 
Cân y Fari Lwyd (Menter Caerdydd) a gennir gan y rhai sydd yn ceisio cael mynediad i’r dafarn

Wel dyma ni’n dyw-ad ,
Gyf-eill-ion di-niw-ad,
I ofyn (o)s cawn gan-nad, (x3)
I gian-u.

2. Os na chawn ni gannad,
R(h)owch glywad ar ganiad
Pa fodd ma’r madawiad (x3)
Nos (h)eno.

3. Ni dorson ein crimpa
Wrth groeshi’r sticila
I ddyfod t(u)ag yma (x3)
Nos (h)eno.

4. Os aethoch r(h)y gynnar
I’r gwely’n ddialgar,
O codwch yn (h)awddgar (x3)
Nos (h)eno.

5. Os o(e)s yna ddynion
All dorri anglynion,
R(h)owch glywad yn union
Nos (h)eno.

6. Y dishan fras felys
a phob sort o sbeisys,
O, torrwch (h)i’n r(h)atus (x3)
Y Gwyla.

7. O tapwch y baril
A llengwch a’n r(h)ugul;
Na rannwch a’n gynnil (x3)
Y Gwyla

Atebion i gân y Fari Lwyd
a gennir gan y rhai sydd tu fewn i’r dafarn

Rhowch glywad, wyr doethion,
Pa faint y’ch o ddynion,
A pheth yn wych union
A pheth yn wych union
A pheth yn wych union
Yw’ch enwau?

2. Rhowch glywad, wyr difrad,
O ble `rych chi’n dwad
A pheth yw’ch gofyniad (x3)
gaf enwi?

3. D’yw wiw i chwi’u swto
A chwnnu’r latch heno
Waith prydydd diguro (x3)
wyf inna’.

4. Mi gwnnais o’r gwely
Gan lwyr benderfynu
Y gwnawn i dy faeddu (x3)
di’n foddau.

5. I ffwrdd a chwi’r lladron
Ewch ymaith yn union,
Ni chewch chi yn hylon (x3)
fy ngwelad.

6. Mi ganaf am flwyddyn
Os caf Dduw i’m canlyn
Heb ofni un gelyn (x3)
y gwylia.

 

Y Fari Lwyd
yn y Mochyn Du, Caerdydd
14 Ionawr 2005
   
   

 

Y Fari Lwyd yng Nghei Newydd

Paratôdd mam fi at y Fari Lwyd gan ddweud mai gorymdaith a welwn, ac mai Wil Evans y crydd fyddai’r arweinydd. Eglurodd ymhellach na fyddwn yn ei adnabod oherwydd y byddai yn gwisgo lliain gwyn amdano ac ysgerbwd pen ceffyl dros ei ben. Soniodd fel y byddai’r pen wedi cael ei addurno a rubanau a rhosynnau o bapur coch a melyn.

Edrychwn ymlaen yn awyddus at ei gweld, a phan oedd ar fin cyrraedd ein ty ni, aeth mam a mi at ffenestr y parlwr, er mwyn i mi gael golwg iawn arni. Rhoddodd mam follt ar y drws rhag ofn i’r cwmni direidus ein gweld a cheisio dod i mewn atom. Dywedodd mam wrthyf am fod yn dawel, ac i beidio a chadw unrhyw swn, neu byddai’n fy rhoi yn fy ngwely yn y llofft gefn. Gwyddwn na fyddwn yn medru gweld dim o’r lle hwnnw.

Cyn hir, clywsom ei swn y tu allan i Bristol House, siop Bili Twm. Canodd o flaen y siop, gan obeithio cael cwrw, arian a theisennod gan Bili Twm. Yna, aeth heibio i’n ty ni, dan ganu’n undonog iawn –

`Mari Lwyd lawen yn dyfod i’ch trigfan,
O, peidiwch a bod yn sych ac anniddan.
O, peidiwch yn wir, mae’r amser yn wan.
Rhowch law yn eich poced a gwnewch eich rhan.’

Tu cefn i’r arweinydd a wisgai’r pen ceffyl, cerddai llawer o ddynion mewn oed, a phob un yn gwisgo mwgwd hyll, a matiau neu grwyn anifeiliaid ar eu cefnau. Y tu ôl i’r dynion cerddai llu o fechgyn o bob oed, pob un o’r golwg y tu ôl i’w fwgwd, a chynffon wiwer
neu fat o groen ar eu pennau a’u cefnau.

Wrth droi i lawr drwy Tin-pan-alley at ddrws cefn Manchester House, dechreu’sant ganu’n uchel

`Wel dyma ni’n dwad, gyfeillion diniwad,
I mofyn am gennad i ganu.
O tapwch y faril, gollyngwch y rhigil,
Na fyddwch yn gynnil i’r Fari !’

‘D oedd fawr o fiwsig yn y dôn. Roedd yn fwy o siant nag o alaw mewn gwirionedd, ac i ganol y canu deuai lleisiau amryw o’r llanciau’n chwerthin.

Clywais mam yn canu’r geiriau flynyddoedd wedi hyn. Clywais hi, hefyd, yn canu ateb cyfarwydd i’r Fari. Dyma fe,

`Rhowch glywed, wyr doethion,
Faint ydych o ddynion,
A pheth yn wych union
Yw’ch enwau!’

Wedi cael croeso i dy, cai aelodau’r Fari deisennod i’w bwyta a chwrw i’w yfed, a hefyd win eirin neu riwbob. Cyn mynd, rhoddai gwr y ty arian mewn cwdyn lledr a gariai’r arweinydd. Yna ai’r Fari Lwyd ymlaen i’r lle nesaf.

Atgofion Ceinewydd. Myra Evans