Morfydd Thomas, Pentyrch

Portread y Mis

Morfydd Thomas, Pentyrch

Cyhoeddwyd yn Tafod Elái Hydref 1987

Bu treulio awr neu ddwy yng nghwmni Mrs Morfydd Thomas yn ddiweddar yn gyfle i mi gael cipolwg ar fywyd cymdeithas gyfan, Cymraeg ei hiaith, fu’n troedio llwybrau’r pentre yma ymhell cyn i rai fel ni feddwl am gartrefu yn unman.

Disgynyddion y rhain sy’n troi i’r Gymraeg yn siopau’r pentre heddiw, wrth glywed ein parabl ni a’n plant. Maen nhw wedi gweld y cylch cyfan, o unieithrwydd Cymraeg y pentre, drwy’r Seisnigo anochel, i’r adfywiad presennol dan law Cymry dŵad fel ni, a’r teuluoedd brodorol hynny sy’n mynnu bod eu plant yn ail-afael yn yr iaith.

Mae Morfydd Thomas yn un o’r tystion hyn, ac mae hi’n diolch am gael gweld y llanw wedi’r trai. Ei hunig ofid yn hyn o beth yw bod capeli Cymraeg Pentyrch i gyd wedi eu chwalu, eu trawsnewid neu eu Seisnigo cyn i ni gyrraedd.

Fe gofia hi gyda balchder am ddiaconiaid Capel Penuel yn gwrthod cydymffurfio â chais Norwyiad o’r enw Mr Schroeter, arferai fyw yn Greenhurst. Roedd yn Fedyddiwr rhonc, a gofynnodd am gyfarfod â diaconiaid Penuel gyda golwg ar droi un gwasanaeth bob Sul yn un Saesneg, fel y gallai ymaelodi. Gwrthodwyd ei gais ar y sail nad oedd digon o drigolion y pentre’n deall Saesneg, ac mai Cymraeg oedd iaith holl blant yr Ysgol Sul. Aeth Mr Schroeter yn ei flaen i sefydlu’r “Pentyrch Mission” yn un o fythynnod Castell Cottages, wrth ymyl Y Garej, ac fe barhaodd aelodau Penuel i addoli yn eu mamiaith.

Un o’r “Cae Wals” yw Morfydd Thomas ac mae’n falch o’i thras. Cae Wal wrth ymyl Field Terrace, oedd cartref ei thad, Richard Davies, a Dic Cae Wal oedd o i bawb o’i gydnabod. Margaret Gelli Dawel oedd ei mam. Safai Gelli Dawel ar ben ucha Heol Goch, wrth ymyl Penygarn. Yn Gelli Dawel a Chae Wal y bu Mrs Thomas hithau gydol ei phlentyndod, ar wahân i ddeunaw mis yn Ynyshir, pan benderfynodd ei rhieni y byddai’n well symud yno i fod yn nes at waith ei thad. Ond bu blwyddyn a hanner o Bentyrch yn fwy na digon i’r teulu, ac yn ôl y bu raid dod.

Wedi gadael yr ysgol, bu Mrs Thomas yn gweithio i gwmni cyhoeddi William Lewis, Penarth Road, yn darllen llawysgrifau. Fe briododd â Windsor Thomas, o Waelod y Garth, ac yn ystod y rhyfel bu’n gweithio fel teleffonydd yn Swyddfa’r Post yn Radur.

Mae pawb ohonom ym Mhentyrch wedi cael digon o gyfle yn ein tro i weld lluniau’r pentre cyn y datblygu mawr, ac mae’n hawdd deall pam fod gan Mrs Thomas a’i chyfoedion cymaint o feddwl o’r lle. Nid yw bwrlwm ac asbri ein cymdeithas ni heddiw yn ddim byd newydd i’r parthau hyn. Mae gorffennol ein pentre wedi ei drwytho yn hen arferion a thraddodiadau’r Cymry. Wedi’r cwbwl, oni fu’r Fari Lwyd yn fawr ei bri yma? Ac fe gofir Morfydd Thomas yn dda hefyd am yr hen arfer o gadw Gwylnos noson cyn angladd.

Mae ei hatgofion am yr hanesion a glywai gan ei rhieni’n anghyffredin o ddiddorol – fel hanes y gŵr a drigai ym Maes yr Haul yn gweld clociau ar werth yng Nghaerdydd, ac yn rhyfeddu fod y ffasiwn ddyfais yn bod. Wedi dysgu dweud yr amser, prynodd un ei hun, a dylifai trigolion yr ardal i’w fwthyn i weld cloc cynta’r cylch! – Neu’r stori am y niferoedd a âi i Fferm Llwyndaddu er mwyn gweld sut i wneud paned o de, a’i flasu am y tro cyntaf erioed!

Mae Morfydd Thomas yn cofio holl gyffro ymweliad y bws cyntaf â Phentyrch ym Mis Mai 1925, a thaith ynddo o Ben-tyrch i’r pwerdy yn costio swllt a phump. Ac yna, bum mlynedd yn ddiweddarach, dyfodiad trydan i’r pentre, i ddisodli’r lampau olew a’r canhwyllau wnaeth gymaint i ddiddosi’r gaeafau hir a thywyll iddi hi a’i chyfoedion.

Pleser digymysg oedd gwrando ar Mrs Thomas yn rhaffu enwau tai a heolydd y pentre: Penygarn, Pentir Hir, Llwyndaddu, Tŷ Crydd, Penuel Fach, Berthlwyd, Gelli Dawel, Cae Wal, Cefn Bychan, Perthi Bach, Tynywaun. Mae ei hafiaith a’i thafodiaith yn tystio’n ddigamsyniol i’r llewyrch a fu ar y Gymraeg yn y pentre, a does neb yn falchach na hi o weld yr adferiad presennol.

Bu Morfydd a Windsor Thomas yn cadw aelwyd gynnes, groesawus, lawen yma am dros hanner canrif. Fe dystia pawb i’w hiwmor iach, eu lletygarwch a’u caredigrwydd di-ben-draw.

Mae Mrs Thomas yn cael trafferth i symud erbyn hyn, Oherwydd anhwylder ar ei choes, ac wedi tr treulio blwyddyn a hanner mewn ysbytai. Mae hi ar hyn o bryd yn yr ysbyty ym Mhontypridd, ac mae ymweliadau gan ei theulu a’i ffrindiau wedi bod yn gysur mawr. Bu colli ei gŵr dair blynedd yn ôl yn ergyd drom iddi a’i hanhwylder hithau’n prysur waethygu. Ni fynnai driniaeth ysbyty ar y pryd am y teimlai fod rhaid iddi ofalu am y ci bach a olygai gymaint i’w gŵr. Bu Ki-Ki yn gwmni ffyddlon iddi yn ei galar, a phan fu farw’r ci, teimlai Mrs Thomas o’r diwedd ei bod hi’n hen bryd iddi roi sylw i’w anhwylderau ei hun.

Bu’n amhosib sôn am Morfydd Thomas heb sôn am Bentyrch. Mae hi’n ymgorfforiad o bethau gorau’r pentre, ac yn meddwl y byd o’r lle. Ac mae’n braf cael dweud fod pawb sy’n ei hadnabod, yn hen ac ifanc, yn meddwl y byd ohoni hithau, ac yn fawr eu parch a’u hedmygedd ohoni.

Gorffennol Gwaelod y Garth

GORFFENNOL PENTREF YN AIL-YMDDANGOS.   Elin Jones.

Cyhoeddwyd yn Tafod Elái mis Medi 1989 

Un o’r mannau harddaf yn ein hardal yw gwarchodfa natur Cwm Llwydrew, rhwng pentrefi Pentyrch a Gwaelod y Garth. Gorwedd y gwarchodfan yn y pant rhwng y Garth ei hun a’r Garth Bach, ac yno cewch ymgolli yn hyfrydwch natur, gwrando ar drydar yr adar, a chael eich swyno gan liwiau cyfnewidiol y tymhorau, a hyn i gyd o fewn i ychydig o filltiroedd o’r M4 a Chaerdydd. Ond y rhyfeddod mwyaf, wrth gwrs, yw hanes y cwm. Bedd hen ddiwydiant ydyw. Hen dramffyrdd yw llawer o’r llwybrau coediog tomenni sbwriel yr hen weithfeydd yw’r bryncynnau; a ffrwynwyd y nant fach brysur er sicrhau pŵer i’r gweithfeydd fu’n ymestyn o’r cwm ar hyd lan yr afon, lle saif tai Heol-y-nant a Heol Berry heddiw.

Gorwedd Cwm Llwydrew ar ffin ddeheuol maes glo De Cymru, lle mae’r gwythiennau glo a haearn yn brigo i’r wyneb ac felly yn hawdd i’w gweithio. O ganlyniad, bu dynion yn crafu’r mwynau o’r ddaear ers canrifoedd – ers yr Oes Efydd, mae’n bur debyg. Bu’r Rhufeiniaid yn cloddio yn ardal Machen, ardal debyg iawn o ran ei daeareg, ac y mae’n bosibl eu bod yn gweithio yma hefyd. Datblygodd diwydiant modern yn gynnar iawn yma. Yn ôl Iolo Morgannwg, codwyd dwy ffwrnais haearn – yr Isaf a’r uchaf – ym mhlwyf Pentyrch yn amser y frenhines Elisabeth 1. Gwyddwn i ddiwydiant haearn De Cymru ddatblygu’n gyflym iawn yn y blynyddoedd hynny. Roedd galw cynyddol am haearn, a daeth Saeson ac Almaenwyr i’n hardal ni i chwilio am fannau addas, am fod hen ardaloedd traddodiadol y diwydiant haearn yn Lloegr yn brin o goed, tanwydd hanfodol y ffwrnais haearn yn y dyddiau hynny. Sefydlwyd nifer o weithfeydd haearn, a chwympwyd fforestydd De Cymru i fwydo’r ffwrnesi, fel y mae’r faled enwog am Goed Glyn Cynon yn ein hatgoffa

Llawer bedwen las ei chlog
(Ynghrog y bytho’r Saeson!)
Sydd yn danllwyth mawr o dân
Gan wŷr yr haearn duon…  

 Roedd Cwm Llwydrew’n ddelfrydol o safbwynt haearn feistr o’r cyfnod hwnnw. Digon o fwyn haearn, a hynny’n agos i’r wyneb, digon o galchfaen hefyd (pwysig lawn i’r broses o doddi haearn), digon o goed a digon o ddŵr – angenrheidiol i gael pŵer i’r gweithfeydd. Mantais arall oedd bod yr ardal mor agos i’r môr ffactor bwysig mewn cyfnod pan ddefnyddid ceffylau pwn i gario nwyddau. Haws o lawer gludo haearn mewn llongau i Fryste neu i borthladdoedd prysur de Lloegr – neu hyd yn oed ymhellach… Mae’r dystiolaeth gyfoes sy’n ategu honiadau Iolo i’w chael mewn cwyn i’r llywodraeth yn 1574. Roedd gan ddyn o’r enw Ralph Hogge fonopoli ar y busnes o gynhyrchu magnelau, a chwynodd fod Edmund Mathew, perchennog ffwrneisi haearn Pentyrch, yn cynhyrchu gynnau mawrion yno, yn gwbl anghyfreithlon, a, mwy na hynny, yn eu hallforio, efallai i Sbaen. Honnodd fod swyddogion porthladd Caerdydd – pentref bach tlawd yn y dyddiau hynny – yn ofni gwrthsefyll dyn cyfoethog fel Mathew. Parhaodd y cwyno – a’r busnes hefyd, mae’n debyg – am flynyddoedd, prawf sicr o aneffeithiolrwydd y llywodraeth yn y cyfnod hwnnw i sicrhau bod trigolion ardaloedd anghysbell yn cadw’r gyfraith oni bai bod teuluoedd pwysig yr ardaloedd hynny yn cydweithio gyda’r llywodraeth. Mae’n bur debyg i’r ffwrneisi losgi, i’r peiriannau droi, i’r gefeiliau gynhyrchu eu magnelau, ac i’r ceffylau eu cludo i’r llongau yng Nghaerdydd ar hyd teyrnasiad Elisabeth. Ai cynnyrch gweithfeydd Pentyrch oedd rhai o’r gynnau ar longau’r Armada, efallai? 

Yn 1602, beth bynnag, gorchmynnodd y llywodraeth Mathew i gau ei ffwrneisi, am iddo gynhyrchu, ac allforio, tua 150 o dunelli o fagnelau ers 1582, pan waharddwyd allforion o’r math. Yn 1609 sefydlwyd comisiwn arbennig i ymchwilio i’r mater. Dywedodd Mathew wrth y Comisiwn iddo gynhyrchu gynnau yn ei weithfeydd ym Mhentyrch a‘ un adeg, ond bod y gweithfeydd bellach wedi eu prydlesu i fasnachwr o Gaerdydd, Peter Samyne (neu Semayne). Cadarnhawyd hynny gan Samyne, a dywedodd iddo rentu’r gweithfeydd oddi wrth Mathew tua naw mlynedd yn gynharach (tuag amser gwaharddiad 1602, efallai?). Yn dilyn yr ymchwiliad hwn, penderfynodd Mathew werthu ei diroedd yn Radur a Phentyrch, a symud i fyw yn Iwerddon – ‘am ei iechyd’ efallai!

Yn ôl pob tebyg, parhaodd Samyne gyda’r hen fusnes, oherwydd pan ymchwiliodd y Cyfrin Cyngor i allforion anghyfreithlon o fagnelau yn 1616, gorchmynnon nhw ddistrywio ffwrneisi Samyne. Nid oes cyfeiriadau pellach at weithfeydd haearn Pentyrch, ac felly mae’n bur debyg i orchmynion y llywodraeth gael eu gweithredu y tro hwn – neu i’r busnes gau o’i hunan.

Ond nid dyna ddiwedd gweithio haearn yn yr ardal. Pan ddechreuodd y chwyldro diwydiannol mawr yn Ne Cymru tua chanol y ddeunawfed ganrif, daeth y diwydianwyr, yr haearn-feistri a’r entrepreneurs yn ôl i Waelod-y-garth ac i Gwm Llwydrew. Ail-sefydlwyd gwaith haearn yno yn 1740. Ychydig a wyddom am ei hanes yn y ddeunawfed ganrif, ond yn 1805 gwerthwyd y ffwrneisi a’r gefeiliau i gwmni Harford, Partridge o Fryste, oedd eisioes yn berchen ar waith tun Melingriffith a gweithfeydd haearn eraill yn Ne Cymru. Yn 1810 gwerthwyd gweithfeydd Pentyrch a Melingriffith i Richard Blakemore, ac aeth ati i greu uned ddiwydiannol gref, gyda’r gweithfeydd haearn yn cynhyrchu nwyddau ar gyfer y gweithfeydd tun.

Cododd ffwrneisi chwyth (y rhai a welir yn y llun), a melinau a gefeiliau. Sefydlwyd ffatri brics ychydig i’r gogledd. Adeiladwyd tai i’r swyddogion a’r gweithwyr, a rhwydwaith o dramffyrdd i gysylltu’r gweithfeydd gyda’i gilydd a gyda’r pyllau lle cloddid y calchfaen, y mwyn haearn a’r glo a ddefnyddid bellach i doddi’r mwyn haearn. Ffynnodd y gweithfeydd yn ystod hanner cyntaf yr 19eg ganrif, ond, fel gweithfeydd eraill De Cymru, dirywio a wnaethant yn ystod ail hanner y ganrif, pan ddarganfuwyd bod mwyn haearn De Cymru yn anaddas i’r dulliau diweddaraf o weithio haearn a dur.

Gosodwyd gweithfeydd Melin-griffith a Phentyrch ar werth yn 1881, ond er i fasnachwr o Lerpwl brynu gwaith Melingriffith, doedd dim diddordeb ganddo yng ngwaith Pentyrch, a dychwelodd hwnnw i feddiant y tir-berchennog. Llwyddodd i rentu’r gwaith, mae’n debyg, oherwydd ceir tystiolaeth bod un ffwrnais chwyth yn gweithio tan 1885. Parhawyd i gynhyrchu llenhaearn (‘sheet-iron‘) yn y gweithfeydd, er yn achlysurol, ond daeth hynny i ben hefyd tua 1915. Aelwydydd oer sydd i’w gweld yn y llun, felly, a dynnwyd tua 1908.

Rhydd y llun argraff arbennig o dda o olwg y gweithfeydd ar ddiwedd eu bywyd — ac am rai blynyddoedd wedi hynny. Roeddynt yn sefyll o hyd tan ddiwedd yr ail ryfel byd, ac yn fan chwarae boblogaidd iawn gan blant y pentref, a hoffai guddio (yn enwedig os oeddynt mewn trwbwl!) yn y twneli a’r fuyeres (pibau awyr y ffwrnesi chwyth). Yna, ar ddiwedd yr ail ryfel byd, penderfynodd y cyngor lleol glirio’r safle, ac adeiladu tai cyngor yno. Aethpwyd ati i wneud hynny, a diflannodd yr hen weithfeydd o’r golwg. Ond nid am byth. 

Yn ystod mis Mai a Mehefin 1989, dechreuodd cwmni Lovell Partnership Homes Ltd. ar y gwaith o adeiladu fflatiau i’r henoed ar y darn o dir segur rhwng cefn Heol Berry a’r stad newydd o dai ger yr afon. Wrth iddynt glirio’r safle, agorodd twll yn y ddaear na ellid ei lenwi. Aethant ai i gloddio’r twll, a darganfod dwy o ffwrneisi’r hen waith haearn, wedi eu cuddio o’r golwg ers deugain mlynedd, ond heb eu distrywio. Galwodd swyddogion y cwmni am gymorth arbenigwyr pennaf yn y maes hwn, Philip Riden o Goleg y Brifysgol yng Nghaerdydd. Nid yw ffwrneisi haearn y ganrif ddiwethaf – na hyd yn oed rhai’r ddeunawfed ganrif – yn bethau anghyffredin ym myd archaeoleg ddiwydiannol De Cymru. Ond yr oedd cyfrinach bellach gan y ffwrneisi hyn. Wrth gloddio, darganfuwyd rhan o ffwrnais gynharach fyth. Adeiladwyd y ffwrnais orllewinol (yr un ar y chwith yn y llun) o gwmpas ffwrnais o’r all ganrif ar bymtheg neu’r ganrif flaenorol – un o ffwrneisi gwreiddiol hen waith anghyfreithlon Edmwnd Mathew, yn ôl pob tebyg. Syfrdanwyd yr archeolegwyr, ac aethant ati i’w chofnodi’n fanwl iawn. Prin iawn, iawn yw enghreifftiau o ffwrneisi haearn o’r cyfnod hwnnw. Wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen, darganfuwyd mwy a mwy o olion gweithfeydd yr unfed ganrif ar bymtheg, darganfyddiad hynod o bwysig wrth geisio datrys hanes gweithfeydd haearn y cyfnod hwnnw. 

Ond darganfod er mwyn distrywio, gwaetha’r modd. Bydd cwmni Lovell’s yn gwneud eu gorau i ddiogelu a chadw peth o’r safle, ond gyda’r ffwrneisi, a rhai o’r gweddillion eraill, rhaid eu distrywio er mwyn eu hastudio, ac er mwyn diogelu’r safle. Byddai astudiaeth bellach yn golygu blwyddyn o waith, llawer o arian, a hefyd digolledu’r cwmni, a gafodd ganiatâd cynllunio (a sicrwydd nad oedd dim ar ôl o’r hen weithfeydd) gan Gyngor Taf-Elái.

Gobaith yr Ymddiriedolaeth Archeolegol yw cyhoeddi llyfr am y gweithfeydd, fel y bo modd i bawb ddysgu mwy amdanynt. Gobaith haneswyr ac archeolegwyr yw y bydd Cyngor Taf Elái’n meddwl yn ddwysach cyn rhoi caniatâd cynllunio arall i ddatblygu ardal o bwysigrwydd hanesyddol arbennig iawn. Soniodd Iolo am ddwy ffwrnais ym Mhentyrch. Ble oedd – neu ble mae – y llall? Apeliwyd yn ddiweddar ar Gyngor Gymuned Pentyrch i gomisiynu ymchwiliad manwl i archaeoleg yr ardal, rhag ofn i sefyllfa debyg ddigwydd eto, ac i ni ddistrywio, yn ein hanwybodaeth, olion prin gorffennol unigryw’r ardal hanesyddol hon.

Elin M. Jones. 

Hanes Glo yn yr Ardal

Glo yn ardal De Taf Elai

Dros ganrif cyn i byllau glo enwog y Rhondda gael eu hagor roedd bwrlwm y diwyiant glo yn ei anterth o gwmpas mynydd y Garth.

   Ar ochr ddeheuol maes glo de Cymru mae’r gwythiennau glo yn dod i’r brig yn Llanilltud Faerdref a Phentyrch ac roedd yn hawdd i godi’r glo a’i werthu ar gyfer cynhesu tai. Cawn ddisgrifiad o’r gweithfeydd glo yng nghofnodion Edward Llwyd tua 1690. Mae’n sôn am   weithfeydd glo ym mhlwyf Llantrisant yng Nghastellau, Y Glyn, Rhiw Saeson a’r Traen (Tonyrefail). Dywedodd fod nifer o weithfeydd glo ym mhlwyf Llanilltud Faerdref yn cynnwys Maes Mawr a Maes Bach ac mae adroddiadau fod y glo o Bryn y Menyn yn rhoi tân llachar ond ddim yn parhau yn hir. Felly roedd cyfnod y 17 a 18 ganrif  yn gychwyn llewyrchus gyda’r glo yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhesu tai, llosgi calch a datblygu’r diwydiant haearn.

 

   Yn ardal Llanilltud Faerdref mae nifer o wythiennau yn dod i’r brig ac fe drodd Bryn y Menyn, yr ardal i’r gogledd o  Neuadd y Pentref, Efail Isaf, yn fwrlwm o dyllu a chloddio. Cludwyd y glo ar gefn ceffylau ac asynnod dros y Garth i Radyr a Chaerdydd a daeth yr Efail yn rhan bwysig o wasanaeth cludiant yr ardal. 

   Mae Lewis Williams yn “Mallt o’r Dyffryn” yn sôn am yr arferiad yn y 1730’au o baratoi at y gaeaf oer drwy lenwi cytiau glo y ffermydd o byllau Bryn y Menyn. Roedd hefyd nifer o byllau ar y Foel, meddai. Roedd y glowyr a’r glo yn cael eu codi gan raff ac olwyn. Ar ôl gweithio’r wythïen am gwpwl o lathenni a’r awyr yn mynd yn wael, byddant yn gadael y pwll ac yn tyllu pwll newydd nepell i ffwrdd. Felly byddant yn gweithio rhan helaeth o’r glo sy’n agos i’r wyneb, heb boeni am awyru’r pwll, nes bod y nwyon yn gwneud hi’n amhosib i gloddio’n bellach yn y pwll hwnnw. Mae mapiau’r cyfnod yn dangos ardaloedd eang o’r ardal lle defnyddiwyd y ffordd yma o gloddio am lo ar raddfa fechan. 

“Mae llawer un yn rofyn
Mynd i weld yr engine
Sy’n tynnu dŵr trwy bibau tin
Ar odrau Bryn y Menyn.”

   Yn ardal Pentyrch mae cofnodion y tirfeddianwyr yn 1615 yn dangos gwerthu dau bwll glo i Matthew, Castell y Mynach. Ac yna yn 1639 rhoddir les ar y gwythiennau glo a haearn ar ochr ddeheuol y Garth o gwmpas Craig Gwilym ac uwchben pentref Gwaelod y Garth. Yn 1760’au mae teulu Talbot o Hensol yn rhoi les i gloddio am lo yn Tyncoed, Craig Gwilym a Choed y Bedw. A hyd heddiw fe welir olion ‘bell-pits’ ger fferm Craig Gwilym a’r pyllau wedi’u trefnu mewn rhesi i ddilyn y wythïen.    

   Wrth i Waith Haearn Pentyrch a Melingriffith ddatblygu o’r 1750’au roedd galw pellach am lo ac fe ddatblygwyd nifer o byllau ar ochr y Garth yn cynnwys Coed y Bedw a’r Lan. Hyd heddiw mae deg mynedfa pwll i’w gweld rhwng Gwaelod y Garth a Tynycoed ac mae ochrau’r Garth yn frith o olion pyllau glo bach.

 

   Ar ddechrau’r 19ed ganrif roedd y tirfeddianwyr am sicrhau fod y glo yn cael ei ddatblygu ar raddfa fasnachol ac fe welir rhes o byllau yn agor ar draws yr ardal o Bontyclun i Waelod y Garth.

Teulu’r Vaughans o Machen fu’n gyfrifol am agor pwll Dyhewid Fach yn Llanilltud Faerdref ond erbyn 1800 roedd Richard Crawshay wedi prynu’r gwaith i’w ddatblygu. Yn yr un cyfnod datblygwyd pyllau yng Ngwaun Miskin, Maes Bach a Maes Mawr.

   Roedd Thomas Powell o Gasnewydd wedi datblygu glofeydd yn Sir Fynwy a Chwm Dâr ac roedd ganddo ddiddordeb yn y glo cartref a gynhyrchwyd yn ardal Llanilltud Faerdref. Agorodd Powell bedwar pwll yn yr ardal o dan yr enw Llantwit Works yn cynnwys Ystrad Berwig, Dihewydd a Tynant o 1840 ymlaen. Daeth datblygwyr eraill i’r ardal, agorwyd y rheilffordd o Lanilltud Faerdref i Drefforest yn 1863 ac roedd y cyfnod hyd at 1870’au yn llewyrchus iawn gyda pyllau mawr a bach yn agor ar draws yr ardal.

   Ond er yr holl lewyrch ar y diwydiant roedd gwaith y glöwr yn galed ac mae llawer o adroddiadau o ddamweiniau difrifol ac angheuol. Yn ystod y cyfnod hyd at 1850’au roedd plant o dan 15 oed yn rhan bwysig o’r gweithlu ac yn wynebu peryglon enbyd. Ymhlith y damweiniau gwaethaf roedd 12 wedi cael eu lladd yn dilyn ffrwydrad yng nglofa y Lan, Gwaelod y Garth yn 1875. Yn 1849 lladdwyd saith o lowyr yng nglofa Llantwit am fod y caets wedi gorlwytho a disgyn 96 llath lawr i grombil y ddaear.  

   Oherwydd bod gymaint o ddatblygu wedi digwydd ar draws de Cymru bu gostyngiad ym mhris y glo ac fe effeithiodd hynny ar gyflogaeth yn yr ardal a bu raid i nifer o lowyr symud i’r Rhondda i weithio.

   Yn y 1880’au buddsoddwyd mewn nifer o byllau i gloddio’r gwythiennau dyfnach. Agorwyd pyllau’r Meiros, Lanelai, Glyn, y South Rhondda a’r South Cambria. Ar droad y ganrif yn 1900 roedd 300 yn gweithio yn y Meirios a 296 yn y South Rhondda ger Brynna. Roedd 171 yn gweithio yn y South Cambria yn ardal Tynycoed i’r gogledd o Creigiau ond cauwyd y pwll yn 1915. Cau fu hanes rhan fwyaf o’r pyllau yn ystod y dirwasgiad yn y 1920’au heblaw am bedwar neu bump pwll newydd a suddwyd ar droad y ganrif yn Coedely yn 1901, Llanharan yn 1922, Cwm yn 1909, Ynysmaerdy yn 1922 a Nantgarw yn 1910. Daeth gwaith yn y glofeydd hynny i ben yn 1986. Agorwyd gwaith glo brig Llanharan/Llanilid yn y 1970’au gan gloddio 300,000 tunnell y flwyddyn tan 1997.

   Diolch i Barry Davies a’r Athro Trevor Boyns ac Ellis Davies am eu gwaith yn cofnodi hanes yr ardal. Mae gwefan welshcoalmines.co.uk hefyd yn gofnod gwerthfawr. Ac mae llu o ymchwilwyr yn parhau i dwrio i grombil y ddaear i chwilio am hen weithfeydd.

 

 

Siop William Evans

Siop William Evans.    Don Llewellyn

Cyhoeddwyd yn y Casglwr, Gwanwyn 1997

 

Yn 1975 darganfyddais drysor a fu’n guddiedig ers diwedd y ganrif ddiwethaf. Nid aur nac arian mohono, ond eto, roedd yn amhrisiadwy. Pwy fuasai’n meddwl y gallai adfeilion hen siop y pentre ddal y fath ddirgelwch. Yn ystod y ganrif hon, yr oedd y stôr wedi bod yn gartref i sawl masnachwr parchus a gweithgar, ond neb i gymharu â William Evans y perchennog o 1862 hyd 1900. Yr ydym yn dra diolchgar i’r dyn hwn oherwydd dim ond trwy ei weledigaeth a’i ddyfeisgarwch y mae gennym heddiw gasgliad gwych o ddogfennau sy’n dangos bywyd ein pentref bach yn ei gyfanrwydd yn ystod oes Fictoria. Hap a damwain oedd y darganfyddiad. Tynnodd cymydog fy sylw at y ffaith fod darnau bach o bapur yn chwifio yn y gwynt yn gyfagos i furddun yr hen siop. Yr oedd cipolwg ar un ohonynt yn ddigon i gynnau diddordeb; diwedd llythyr personol ydoedd: ‘. . . Hyn mewn hyfrydwch calon oddi wrth eich ufudd Gomer Thomas’.

 

Yr oedd y brad-ddrws i’r llofft uwch ben y stablau wedi pydru ac yr oedd y to yn barod i esgor cyfrinachau’r hen William allan i’r byd tu hwnt. Cefais ganiatâd i’w holrhain a hefyd i gadw unrhyw beth o bwysigrwydd hanesyddol i’m hastudiaeth fy hun. Yn ddigon hawdd, agorwyd y drws am y tro cyntaf ers troad y ganrif ac yno o fy mlaen roedd y trysor. Yr oedd William Evans wedi cadw pob darn o bapur perthnasol i’w fusnes a’i fywyd gyda phob blwyddyn wedi eu rhestru ar fonyn gwahanol. Eisteddai’r bwndeli’n daclus mewn rhes ar un ceibren. Gwelais dystiolaeth o ymweliadau cenedlaethau o lygod bach ond ychydig iawn o ddifrod oedd i’w weld, a hynny yn gyfyngedig i’r ymylon. Diolch i’r llygod am eu trugaredd!

 

Eisteddais am dair awr y prynhawn hwnnw ymhlith y ceubrennau yn gaeth i’r papurau a’u cynnwys. Wedyn, trowyd fy ngarej yn astudfa am dri mis tra bûm yn dethol y rhai gorau ac yn eu diheintio. Dros yr wythnosau, datblygodd (allan o’r chwech o sacheidiau gorlawn) ddarlun o fywyd pentrefol hir ddiflanedig. Pentyrch yw’r lle; pentref sydd yn gorwedd ar lechweddau Mynydd y Garth yn nwyrain Morgannwg ond yn fwy cywir, y rhan o’r hen blwyf a elwir yn Benygarn. Dim ond saith milltir o ganol y brifddinas, ond yn fyd gwahanol. Fel y dywedodd y diweddar Athro Griffith John Wi1liams,. ‘Bu Pentyrch erioed yn enwog am ei Gymreigrwydd, am ei sêl dros bopeth Cymreig . . . pan oedd yr ardaloedd cylchynol yn cael cu boddi gan fôr o Seisnigrwydd, parhaodd yr iaith yma yn hoew ac yn dirf’. Ac yn anhygoel, wrth ystyried agosrwydd daearyddol y pentref i Gaerdydd, yw’r ffaith fod cofnodion Cyngor Plwyf Pentyrch yn ddwyieithog hyd at y saithdegau cynnar (sef amser y newidiadau mawr yng nghyfun- drefn llywodraeth leol). Yn y rhan hon o Gymru roedd yn wyrth.

Fel y disgwylir, trwy gyfrwng y Saesneg ’roedd y mwyafrif o’r gweithredoedd masnachol a gadwyd yn y casgliad er mai Cymraeg oedd iaith gyntaf 95% o drigolion y plwyf yn y cyfnod hwnnw. Er gwaethaf hyn, Cymraeg oedd y llawlyfr a ddysgodd William Evans sut i wneud ei gyfrifon. Yr oedd yn ogystal yn gwerthu ugeiniau o bapurau newydd Cymraeg i’r pentrefwyr ac ambell almanac a nofel yn yr hen iaith. Hyd yn oed yn y cyfraniadau Saesneg cewch gadarnhad nad yr iaith fain a gai flaenoriaeth ym mywyd y gymuned.

 

Deuthum yn gyfarwydd iawn â’r teulu Evans wrth i mi ddilyn eu gweithredoedd a nodi eu teimladau ynglŷn ag amryw agweddau bywyd. Deuthum i adnabod William ei hun fel dyn uchelgeisiol a gwelais ei gyfoeth yn tyfu dros y deugain mlynedd. Fel masnachwr, mwynhaodd safle go bwysig mewn cymdeithas ac yr oedd yn ddiddorol gweld y berthynas rhyngddo ef a’r ysgolfeistr, y postfeistr a’r ficer. Siop weddol fach oedd hi ar y dechrau ond erbyn y saithdegau, yr oedd yn archfarchnad ei dydd a hyn yn syndod gan gofio mai pentref cymharol ynysig oedd Pentyrch a dim ond llwybrau cul a chreigiog i’w gyrraedd. Yr oedd ganddo gyflenwyr o feysydd pell: daeth ymenyn o Iwerddon a thybaco yn uniongyrchol o America. Mae un llythyr (1862) yn ymddiheuro am godi prisiau oherwydd y rhyfel rhwng y Taleithiau. Yr oedd yn derbyn cig moch o safon yn gyson oddi wrth ffermwr yn Nhregaron ac yr oedd yn brynwr parod pan oedd y moch lleol yn dew. Fel cyflogwr roedd William Evans yn gosod tair amod: rhaid i bob gweithiwr fod (a) yn gallu siarad Cymraeg; (b) yn deilwng o’i ymddiried; (c) yn Fethodist Calfinaidd. £26 y flwyddyn oedd cyflog cyfartal i’w weision.

Dan do’r siop roedd amrywiaeth anferth o bethau cyffredin ac egsotig, o fotymau i bowdr dryll, o feddyginiaethau i fwyd i dda byw; olew, bara a bisgedi, blawd, siwgr, triog a mêl, chwisgi, brandi a gwin, snisin (Finest Black Rappee), ac ugeiniau o sigarau gwahanol. Cannoedd o archebion nwyddau sy’n dangos gofynion sylfaenol teulu cyfoes; bron pob un yn gofyn am ganhwyllau, paraffin a lampblack heb anghofio am gaws, halen a bara. Gwerthwr gwisgoedd oedd William Evans hefyd ac yr oedd yn cadw dillad at bob achlysur, o briodasau i angladdau, o’r cwrdd i’r helfa. Mae sawl archeb am frethyn lle mae’r cwsmer wedi pinio sampl i’r llythyr. Y cyfryw oedd enw da’r siop am safonau uchel, bu cerbydau William Evans yn anfon nwyddau i Fro Morgannwg, Caerdydd, Pontypridd a’r cymoedd, bron pob awr o’r dydd.

 

Yr oedd melinwyr a gwneuthurwyr celfi’r ardal mewn cysylltiad rheolaidd i’r busnes. Mae’r ugeiniau o anfonebau gan grefftwyr y plwyf, sef Mathews y gof, Thomas y plastrwr, Williams y gwydrwr, a Sianco’r crydd yn creu darlun o lawnder a phrysurdeb. Yn achos Evans ei hun, gwelwn gyfoeth uwch ei alwedigaeth. Eto, yn gwau drwy’r cyfan gallwn weld arwyddion o dlodi a llymder. Y nodiadau di-ri oddi wrth y ficer Parch. Theophilus Rees sy’n dangos yn fanwl gyfyngder ac anobaith rhai o drigolion anghenus y pentref: weithiau yn gofyn am werth swllt o fara i rwystro rhyw deulu bach rhag newynu, neu atolwg am esgidiau ail-law i blant troednoeth. Mae’r disgrifiadau o afiechydon y cyfnod yn cynnwys y dwymyn lyferth (teiffoid) a sawl cyfeiriad at farwolaeth yn y crud.

Un o lywodraethwyr Ysgol Bwrdd Pentyrch oedd William Evans ond cafodd pob un o’i wyth o blant addysg breifat ym Mryste. Hiraethu am bentref eu genedigaeth oeddent yn eu llythyron. Yn rhyfedd, nid oes un o ddisgynyddion William Evans yn byw yn yr ardal heddiw. Yr oedd ei fab, John William, dyn dysgedig a oedd yn siarad pump o ieithoedd gwahanol, yn ysgol- feistr yn y Creigiau hyd at ei farwolaeth yn 1950. Claddwyd ef gyda gweddill y teulu ym mynwent Eglwys St. Catwg, Pentyrch; er mai Methodistiaid eiddgar oeddynt i gyd, yr oedd tyniad cu gwreiddiau dwfn yn yr hen blwyf yn rhy gryf.

 

Yn y casgliad mae ffurflenni a thrwyddedau sydd yn dangos cymhlethdod rhedeg busnes hyd yn oed yn y dyddiau hynny, yn cu plith, tystysgrifau treth incwm ochr yn ochr £1 dogfennau i ganiatáu gwerthu gwirodydd ac i gyflogi gweision. Mae adlewyrchiad o bron pob golwg ar y natur ddynol ar gael ar y bonau. Ynghyd ag enghreifftiau o dynerwch calon, mae ambell weithred gas; ond ar y cyfan, rhinweddau ydynt a fyddai’n fendithiol i ni i gyd o’u harddel heddiw.

 

O’r cyfan, fy hoff eitem yw llythyr oddi wrth ddyn o Ferthyr at William Evans yn gofyn am rywbeth a archebwyd rhyw fis yn gynharach. Mae’n cyflwyno i’r siopwr y bygythiad: os na cheid yr ambarél ar unwaith ni allai wneud dim llai na rhoi hanes y mater i gyd-ddiaconiaid William Evans yng Nghapel y Methodistiaid Calfinaidd Horeb, Pentyrch!

Pen-tyrch a’i Gymeriadau 2002

Pen-tyrch a’i Gymeriadau.     Don Llewellyn

( O Llafar Gwlad 2002)

Cefais fy ngeni mewn pentre bach ar lechweddau Mynydd y Garth – yr ucheldir sy’n edrych i lawr ar ddinas Caerdydd. Mae Pen-tyrch erbyn hyn yn rhan o’r brifddinas ei hunan ond trwy gydol yr oesoedd, roedd gwahaniaethau mawr rhwng y ddau le o safbwynt ein ffordd o fyw, ein diwylliant ac yn enwedig ein hiaith. Hyd at 1974, sef amser y newidiadau mawr yng nghyfundrefn llywodraeth leol, roedd cofnodion Cyngor Plwyf Pen-tyrch yn ddwyieithog. Ers hynny, mae’n flin gennyf ddweud, mae busnes y Cyngor Cymuned yn uniaith Saesneg.

   Mae fy ngwreiddiau yn ddwfn yn yr hen blwyf yma ac fel pob brodor arall, rwyf yn ymwybodol iawn o’r rhan mae Pen-tyrch wedi i chwarae yn hanes yr ardal. Mae yna draddodiad bod pobl gecrus iawn yn byw yma – fel y gellir dychmygu oddi wrth hen ddywediadau fel ‘Rhwng gŵyr Pen-tyrch a’i gilydd’ a ‘Bit rhyddoch chwi gwyr Pen-tyrch!’ A beth am yr hen driban gynt a oedd yn son braidd yn ddiraddiol am drigolion Pen-tyrch?

Pan fo Pen-tyrch yn llawan
Heb falais na chenfigan,  
Fe fydd y mêl yn dod o’r cwar
A ffigysh ar y ddraenan!

   Yn sicr, mae Pen-tyrch wedi ymladd yn gryf ac yn ddewr dros y canrifoedd i gadw’i gymeriad arbennig. Yn ôl yr Athro Griffith John Williams, ‘Bu Pentyrch erioed yn enwog am ei Gymreigrwydd, am ei sêl dros bopeth Cymreig . . . pan oedd yr ardaloedd cylchynol yn cael eu boddi gan for o Seisnigrwydd, parhaodd yr iaith yma yn hoyw ac yn dirf’. Tua deng mlynedd ar hugain yn ôl, buasai’n deg dweud taw Cymraeg oedd iaith gyntaf yr hen frodorion i gyd, gydag amryw o’r canol oed hefyd yn dal eu gafael ar y famiaith. Yn gynnar yn y chwedegau, roedd yr Athro ‘G.J.’ wedi fy annog i fynd allan gyda recordydd sain i siarad â hen frodorion Pen-tyrch rhag i’r dafodiaith ddiflannu am byth. Erbyn hyn, mae gennyf gasgliad amhrisiadwy o ddeuddeg awr o leisiau fy mro ar dap: lleisiau sy’n dangos tinc yr hen Wenhwyseg (curiad calon yr hen Bentyrch) yn llawer gwell nag y gallwn i. Mae’n bwysig cofio mai hon oedd y dafodiaith a siaredid gan ddegau o filoedd o Gymry hyd at hanner can mlynedd yn ôl – y Wenhwyseg sy’n perthyn i ddwyrain Morgannwg a Gwent: iaith Merthyr Tudful, y Rhondda, Aberdâr, Maesteg, Pontypridd, Bargoed, a Rhymni; y Wenhwyseg a fu’n famiaith i lawer o gewri’r de: Dr Joseph Parry, Dr William Price, Dic Penderyn, Islwyn, Mabon ac yn y blaen.

   Mae i bob tafodiaith ei hynodion diddorol. Ym Mhen-tyrch, nid ‘glöwr’ sy’n gweithio dan ddaear ond ‘gloiwr’; ac nid hawdd nac esmwyth yw ystyr y gair ‘rhwydd’ . . . dim ond ‘cyflym’ yw hwnnw. Dwedent: ‘Dera ‘ma’n rhwydd bachan bech’ . . a ‘Duw, me fa’n gallu retag yn rhwydd!’ Nid Sioned yw Janet ond ‘Shenad’. Lle mae’r gogleddwr yn dweud ‘yndi mae o’; mae’r gorllewinwr yn rhoi ‘Odi ma fe’; ym Mhen-tyrch: ‘Odi me fa!’ Wedi’r cyfan, pedair iaith wahanol sydd gennym yng Nghymru, sef ‘Cymraeg’ yn y Gogledd, ‘Cwmrag’ yng Ngheredigion, ‘Cymrag’ yng ngorllewin Morgannwg ac yn Nwyrain Morgannwg a Gwent, ‘Cymreg’ yw hi. Weithiau y dyddiau hyn, mae’r dafodiaith yn destun gwatwar. Mae rhai’n chwerthin wrth ei phen wrth glywed y llefariaid yn culhau a’r cytseiniaid yn caledu; ond mae ‘na burdeb hefyd. Wrth gwrs mae ‘na debygrwydd (camarweiniol) rhwng rhai ffurfiau y Wenhwyseg a llefaru sir Drefaldwyn gyda ‘cel’, ‘bech’ a ‘glen’ . . . a chyffelybrwydd a Gwynedd gyda ‘pocad’, petha’, ‘ceffyla’, ‘bora’, ‘hanas’ ac yn y blaen. Y gwir yw fod y cyfan yn cyfranu at gyfoeth ein hiaith.

 

   I mi wrth gwrs, mae’r acenion lleol yn swnio’n hollol naturiol. Wrth recordio llais Edmund Llewellyn (Emwnt Siedi, neu ‘Shedi’ oblegid taw Shadrach oedd enw ei dad-cu) gofynnais iddo a oedd e’n cofio un Twmws William. ‘Odw’ oedd ei ateb. ‘Wy’n cofio fa ‘net . . . roedd yn dŵad ‘ma acha ceffyl acha dydd Sul o Bontclown. Roedd yn dicyn bech yn drwm o glwad. Fe brotiws â Shenad, merch Ianto Nant yr Arian, cefnithar Shoni bachan Aron ac yn wêr i William “tred clwm”.’

   Ar y tapiau mae llawer o son am gymeriadau lliwgar, yn eu plith beirdd gwlad, cantorion, ymladdwyr, helwyr ac arwyr y cae rygbi. Doedd dim testun gwell na gorchestion tîm rygbi Pen-tyrch i droi sgwrs yn sgarmes, ond wrth gwrs, yn yr ardal hon, ‘y dem’ oedd hi ac nid ‘y tîm’ (tem o geffyla yw’r tarddiad). Pan oedd y bechgyn lleol yn chwarae rhywle yng Nghaerdydd roeddynt yn cael eu hystyried yn estroniaid oherwydd eu hiaith a’u hymarweddiad drygionus. ‘The Welshies are down from the hills!’ oedd y gri. Dim ond chwe milltir i ffwrdd ond roedd yn fyd gwahanol!

   Rhyw bymtheg cant o flynyddoedd yn ôl, roedd Pen-tyrch fel pob cwr a chornel arall o Forgannwg yng nghanol deffroad crefyddol. Daeth Catwg, un o ffigurau mwyaf pwysig yr Eglwys Geltaidd gynnar i’r ardal a sefydlodd ‘gaethbentref’ (a bond village) ger ffynnon yma. Fe’i gelwir yn Ffynnon Gatwg hyd heddiw a Nant Gwladus (wedi ei henwi ar ôl mam Catwg) yw’r ffrwd sy’n dal i redeg ohoni. Nid oedd pawb o lynwyr Catwg Sant yn y pentref yn haeddu cymaint o ganmol a’r dyn da hwnnw. Bechgyn drwg oedd rhai ohonynt i ddweud y lleiaf! Er enghraifft, yn ystod teyrnasiad Elisabeth I, cafodd trosedd fradwrus ei chyflawni gan berchennog Gwaith Haearn Pentyrch. Bu Edmund Mathew yn gwerthu dryllau a phelau cyflegr i’r Sbaenwyr am ugain mlynedd hyd iddo gael ei rwystro gan orchymyn y Cyfrin Gyngor yn y flwyddyn 1602. Nis gwn i a oedd gan Edmund gydymdeimlad ag achos Sbaen; mae’n debygol taw menter fasnachol lwyr ydoedd.

Un o’n cyn-drigolion gwir ganmoladwy oedd John Jones. Cafodd ei eni yn Llwyndaddu Pen-tyrch yn y flwyddyn 1645. Dangosodd addewid cynnar fel ysgolhaig a chafodd ei dderbyn gan Goleg yr Iesu, Rhydychen pan oedd yn ddwy ar bymtheg oed. Yn fuan fe ddaeth yn gymrawd o’r coleg hwnnw. Wedi graddio’n gyntaf yn y celfyddydau daeth wedyn yn ddoethor yn y gyfraith. Gweithiodd fel meddyg yn Windsor ac yn 1691 penodwyd ef yn Ganghellor Llandaf.

   Yn 1683, cyhoeddodd draethawd yn Lladin ar glefydau trofannol, a thua 1700, yn ôl Llyfr Plot (The Natural History of Oxfordshire), dyfeisiodd gloc a gai ei weithio gan awyr yn pasio trwy feginau lledr. Trist yw’r ffaith bod athrylith John Jones wedi’i esgeuluso’n llwyr gan haneswyr gwyddoniaeth yng Nghymru.

Yn fy nghyfnod i, un o’r cymeriadau sy’n sefyll maes yn fy nghof yw Tom Jenkins (Twm Crydd). Rhyw ddiwrnod, roeddwn yn trafod tarddiadau enwau’r ffermydd lleol. Mae enwau Cymraeg yn ei phurdeb o’n cwmpas hyd heddiw – wrth feddwl am ‘Llwyn y Brain’, ‘Hendrescuthan’, ‘Coed Rhiw Ceiliog’, ‘Llwyn yr Eos’ ac yn y blaen – mor swynol ag erioed a sawl un yn cynnwys enwau adar. Cofiaf Twm yn son am yr enw ‘Llwyn y Brain’ ac wrth wrando arno yn dweud ei stori, roeddwn yn ymwybodol o’r elfennau sylfaenol chwedlonol yn ei chynhwysiad. Yn ôl Twm, roedd bachgen yn gwarchod y llafur (hynny yw, yr yd) rhag yr adar. Roedd y crwt yn defnyddio dryll wedi ei lenwi a hoelion yn lle ‘shots’. Pan welodd y brain yn y coed, saethodd atynt. Fel roedd yr hoelion yn mynd trwy goesau’r brain, roedd yr adar yn cael eu glynu’n sownd ar y canghennau. Wrth i’r adar hedfan i ffwrdd, tynnwyd y coed o’u gwreiddiau. Glaniodd y llu gyda’u llwyth enfawr mewn cae yn swydd Henffordd lle’r oedd da (gwartheg) brown yn pori. Cafodd y da gymaint o sioc aeth eu hwynebau’n wyn. Felly fe grëwyd brid newydd! (‘White faced Herefords!’)

   Twm Crydd oedd yn torri gwallt ‘mrawd a fi pob yn ail wythnos ac yn ddi-baid y bydde fe’n tynnu’n coesau ynglŷn â’n tad-cu ‘Dic Soar’. Roedd Twm tua’r un oedran a Dic ac roedd yn gwybod pob dim amdano. Yn ôl Twm, pan yr oeddynt yn ifanc, fe syrthiodd Dic mewn cariad a merch o’r enw Mary Israel a fu’n byw ar y fferm Craig Gwilym – ond roedd llaw yr eneth fach honno wedi ei gado i fab y ficar. Felly byddai Twm yn canu tra oedd e’n tocio’n gwallt:

 

   Y Deryn Du pig felan
A aed di drostoi am dal
Oddi yma i Graig Gwilym
A disgyn ar y wal

A gwed wrth Mari Isral
Am bido bod mor ffôl
A charu meb y ffirad
A gadael Dic ar ôl!

 

   Wrth gwrs, ar y tapiau, mae’r lleisiau yn son am genedlaethau cynharach na fy ffrind Twm. Maen nhw’n gyrru’r gwrandäwr yn syth i’r gorffennol, at gyfnod lle’r oedd llai o ffwdan a ffysg – pan oedd yr holl blwyf bron yn uniaith Cymraeg. Peth arall yr ydyn ni’n codi o’r tapiau yw hiwmor naturiol y trigolion. Fe gewch chi beth blas o hyn tra bod y siaradwyr yn cyfeirio at feirdd gwlad y pentref. Mae cywilydd arnom ni am fod cyn lleied o’u gwaith nhw wedi goroesi. Gafodd ychydig iawn ohono ei sgrifennu lawr wrth gwrs. Roedd y traddodiad yn gryf gyda chystadlaethau yn cael eu cynnal yn gyson yn y tafarnau yn ystod misoedd y gaeaf. Hefyd, a allwch ddychmygu’r golygfa yng Nghefn Bychan ar nosweithiau’r haf pan oedd y beirdd yn ymgynnull o gwmpas yr hen ffwrwm: ‘Y fainc farddol’. ‘Angladd y Mochyn’ oedd y testun ar un achlysur a dyma waith Oli Pritchard am y digwyddiad hwnnw:

Mae holl drigolion Cefn Bychan
Wedi cael eu taro’n syn
Trwy i angeu ddod mor sydyn
A thorri lawr y mochyn gwyn
Gweithiwr tlawd yr oedd ei berchen,
Ben Drescuthan ydoedd e
Gwnewch gydymddwyn trwy roddi arian
I gael mochyn yn ei le.
Yn ei angladd roedd personau,
Boneddigion penna’r wlad,
William Pritchard, Betasea
A William Gruffudd, yr hen dad,
Jim gwr Rhoda, Ben Drescuthan
Wil ei frawd a Twm Ton Mawr
Oli Lisa, Dai mab Letis,
Dyna eu henwau’n drefnus ‘nawr.

  Rwy’n cofio Twm yn son am ddyn o’r enw Jona a oedd yn byw yn ‘Gwrt y Carna’. Fe fu merch yn byw mewn tŷ cyfagos ac roedd Jona yn caru shia hi er ei bod hi’n dlawd ei hiechyd.

Daw jaioni byth o Jona
Sy’n byw yn Gwrt y Carna
Fe ddaws ei serch ar ferch Tŷ Bech
Sy ddim yn iech sblynydda!

   Cofiwch, dydw i ddim yn son am feirdd o safon yma. Rwy’n deall hynny. Dim ond dynion (rhai ohonynt yn hollol anllythrennog) a oedd yn mwynhau dodi geiriau syml at eu gilydd. Un arall oedd Twm Rees o Shini Colas (hynny yw, St Nicholas). Roedd y Twm hyn yn cyrchu tafarn Y Rock yn y pentre ‘ma o dro i dro. Yn gweithio ar hyd y ffermydd oedd e, o un fferm i’r nall . . . a chêl cwpl o syllta a off a fe i’r dafarn nes bo hi’n stop tap. Bysa fa’n cysgu mewn sguboria ‘ma a co. Ond rhyw nyswith yr oedd wedi cêl gormod yn y dafarn ac ar ei ffordd i ffindo rhywle i gysgu fe gwmpws a dorws ei goes. Ac fel hyn y canodd a’:

Os olad rhwyn pwy’n oedd y bardd
Atebad rhwyn o’r dyrfa
Cael llanc o’r fro a ddaeth am dro
A digon o gyneddfa
Yn Shini Colas gewch chi’r hanas
Mewn lle ganad, mewn lle cynnas.
Mae e a’i arian yn yr Union
Yn lle cyfiawn i ddod yn gyfan
Wedi cwmpo’n gros
Ar hanner nos
A thorri cos ei hunan!

   Cymeriad arall oedd Siôn y Mynydd. Un diwrnod, roedd yn ymddangos o flaen yr anadon ym Mhontypridd ar gyhuddiad o fod yn feddw ac yn gorwedd yn y gwter. Gofynnodd cadeirydd y fainc os oes rhywbeth ganddo i ddweud yn ei amddiffyniad.

  ‘Wel,’ medda Siôn . . . ‘roedd y bai ar y ddau ddyn a oedd yn dal fi lawr!’

‘Dau ddyn?’ gofynnodd y cadeirydd,
‘Dau ddyn? . . . yn ôl y plismon roet ti ar ben dy hunan! . . . beth sy . . . ‘

Wel, roedd dau ddyn yn dal fi lawr ta be dwedodd hen Siôn.

‘Wel, pwy oedd y dau ddyn yma ta?’

‘Mitchell a Butler syr,’ medda Siôn, ‘Mitchel a Butler.’

   Dros y canrifoedd mae trigolion Pen-tyrch wedi ennill enw am fod yn ofergoelus. Roedd ganddynt gred ddofn yn y byd gornaturiol. Rwy’n cofio fy hunan storïau ynglŷn â’r Ceffyl Dwr, y Toeli, Jac y Lantarn, a’r ysbrydion i gyd a oedd yn cyrchu corneli tywyll y plwyf. A beth am ‘Y Ladi Wen’. Mae pobl yn fyw heddiw ym Mhen-tyrch sy’n barod i ddweud eu bod nhw wedi gweld y ddrychiolaeth ‘na. Dywedir yr unig ffordd o osgoi y weledigaeth ddychrynllyd oedd i adrodd y pennill . . . pennill a safodd ar wefusau plant gwirioneddol ddiniwed fy nghenhedlaeth i:

 

Ladi Wen ar ben y pren
Yn naddu cos ymbrelo
Me’n un o’r gloch
Me’n ddou o’r gloch
Me’n brid i’r moch gel cino.

Roedd ein hewyrth yn rhybuddio pawb wastod gyda:

‘John Jones, cau dy ben
Paid a holi’r Ladi Wen
Neu daw barn ar dy ben.’

   Atgofion niwlog sydd gennyf o’r addysg a gefais yn ysgol bentre Pentyrch. Teml i addoli arwyr Lloegr oedd hi yr adeg honno beth bynnag, lle dysgais am Robin Hood a Hereward the Wake, Drake a Nelson, Wellington a William Pitt. Fawr o ddim am hanes Cymru. Felly hoffwn gael fy ystyried yn un o fethiannau mwyaf llwyddiannus yr ysgol honno!

   Ond mae’n rhaid i mi gyfaddef fod gennyf atgofion melys hefyd.

   Mae’n dda gennyf weld y ffordd y mae’r ysgolion lleol heddiw yn ennyn diddordeb y plant ym mywyd ac yn hanes eu hardal. Trueni fod cymaint â oedd yn ddiddorol wedi diflannu yn ystod y gorffennol agos. Er fy mod yn perthyn i’r genhedlaeth honno a welodd ddirywiad yr iaith, pleser mawr ydyw cofio’r dylanwadau cynnar. Ni all dim fod yn fwy torcalonnus na gweld bro wedi colli ei thraddodiadau a phob cof am y pethau a fu. Llongyfarchiadau i aelodau Clwb y Dwrlyn Pen-tyrch am ei hymdrechion i adfywio’r hen ddefod . . . y Fari Lwyd. Atgof sy’n dod yn ôl yn gryf yw fy ngolwg cyntaf o’r ddau frawd Twm a Shoni Caerwal a’u ‘cyfeillion diniwad’ yn cyrraedd gyda’r Fari. Llais tenor Twm yn canu’r hen don – mae’n dal i rewi fy esgyrn hyd heddiw:

 ‘Mae gen i hen Fari – y lanha yn Gymru
Y lana yn Gymru nos Heno . . . ‘

   A llais y baswr Dai Jones yn ateb:

   ‘Does gen ti ddim Mari; hen fwlsyn sy gennyt ti . . . a stwffa’n hen recsyn . . . ‘ a.yb.

   O, am y dyddiau a fu!

   Un stori arall. Ym mis Rhagfyr 1951 roedd mast teledu y Wenfo yn cael ei adeiladu ar gyfer y trosglwyddiad cyntaf o deledu yng Nghymru a Gorllewin Lloegr oedd i fod yn dechrau yn y mis Ionawr canlynol. Roedd y mast yn hawdd i’w weld oddi wrth Pentyrch ac yr on ni’n gallu gweld y polyn yn tyfu dydd wrth ddydd. Roedd Twm Crydd ag Edmund Shedi yn eistedd ar y ffwrwm oedd yn gyferbyn a’r Lewis Arms ac roeddynt yn edrych i lawr tuag at y Wenfo. Roeddynt wedi sylwi fod polyn arall, llai na hanner uchder yr un tal, wrth ei ochor. Dyma Twm yn gofyn i Edmund: ‘Beth yw pwrpas y polyn byr ‘na ta Edmwnt?’

   ‘I raglenni plant weden i,’ medda fa!

   Ffurfiwyd Cymdeithas Hanes Lleol Pen-tyrch yn 1993 ac mae’n mynd o nerth i nerth. Ar hyn o bryd mae dros gant o aelodau sydd â diddordeb iachus yn y gorffennol – yn ogystal ag edrych tuag at y dyfodol gyda gobaith a hyder. Yn bersonol, er fy mod yn hiraethu am gyfnod y tai toydd gwellt a fu’n nodweddu’r fro yn ystod fy mhlentyndod, a’r iaith nefol a symudodd tafodau’r brodorion, yr ydwy’n gweld arwyddion fod dyddiau da i ddod. Rwyf yn hyderus fod y dylifiant o waed newydd, tafodieithoedd ac acenion newydd sydd wedi cyrraedd y gymuned yn creu gobaith newydd i bob un ohonom. Pwrpas ein cymdeithas yw sicrhau y bydd rhai o agweddau’n gorffennol gyda ni am byth. Er gwaetha’r newidiadau, heb amheuaeth mae adlais yr hen amserau yn aros; ar bob awel mae hen ysbrydion yn sibrwd, ac ar bob pelydr haul cewch gip ar anturiaethau’n cyn-bentrefwyr.

 

Don Llewellyn (Cadeirydd Cymdeithas Hanes Lleol Pen-tyrch)