Morfydd Thomas, Pentyrch

Portread y Mis

Morfydd Thomas, Pentyrch

Cyhoeddwyd yn Tafod Elái Hydref 1987

Bu treulio awr neu ddwy yng nghwmni Mrs Morfydd Thomas yn ddiweddar yn gyfle i mi gael cipolwg ar fywyd cymdeithas gyfan, Cymraeg ei hiaith, fu’n troedio llwybrau’r pentre yma ymhell cyn i rai fel ni feddwl am gartrefu yn unman.

Disgynyddion y rhain sy’n troi i’r Gymraeg yn siopau’r pentre heddiw, wrth glywed ein parabl ni a’n plant. Maen nhw wedi gweld y cylch cyfan, o unieithrwydd Cymraeg y pentre, drwy’r Seisnigo anochel, i’r adfywiad presennol dan law Cymry dŵad fel ni, a’r teuluoedd brodorol hynny sy’n mynnu bod eu plant yn ail-afael yn yr iaith.

Mae Morfydd Thomas yn un o’r tystion hyn, ac mae hi’n diolch am gael gweld y llanw wedi’r trai. Ei hunig ofid yn hyn o beth yw bod capeli Cymraeg Pentyrch i gyd wedi eu chwalu, eu trawsnewid neu eu Seisnigo cyn i ni gyrraedd.

Fe gofia hi gyda balchder am ddiaconiaid Capel Penuel yn gwrthod cydymffurfio â chais Norwyiad o’r enw Mr Schroeter, arferai fyw yn Greenhurst. Roedd yn Fedyddiwr rhonc, a gofynnodd am gyfarfod â diaconiaid Penuel gyda golwg ar droi un gwasanaeth bob Sul yn un Saesneg, fel y gallai ymaelodi. Gwrthodwyd ei gais ar y sail nad oedd digon o drigolion y pentre’n deall Saesneg, ac mai Cymraeg oedd iaith holl blant yr Ysgol Sul. Aeth Mr Schroeter yn ei flaen i sefydlu’r “Pentyrch Mission” yn un o fythynnod Castell Cottages, wrth ymyl Y Garej, ac fe barhaodd aelodau Penuel i addoli yn eu mamiaith.

Un o’r “Cae Wals” yw Morfydd Thomas ac mae’n falch o’i thras. Cae Wal wrth ymyl Field Terrace, oedd cartref ei thad, Richard Davies, a Dic Cae Wal oedd o i bawb o’i gydnabod. Margaret Gelli Dawel oedd ei mam. Safai Gelli Dawel ar ben ucha Heol Goch, wrth ymyl Penygarn. Yn Gelli Dawel a Chae Wal y bu Mrs Thomas hithau gydol ei phlentyndod, ar wahân i ddeunaw mis yn Ynyshir, pan benderfynodd ei rhieni y byddai’n well symud yno i fod yn nes at waith ei thad. Ond bu blwyddyn a hanner o Bentyrch yn fwy na digon i’r teulu, ac yn ôl y bu raid dod.

Wedi gadael yr ysgol, bu Mrs Thomas yn gweithio i gwmni cyhoeddi William Lewis, Penarth Road, yn darllen llawysgrifau. Fe briododd â Windsor Thomas, o Waelod y Garth, ac yn ystod y rhyfel bu’n gweithio fel teleffonydd yn Swyddfa’r Post yn Radur.

Mae pawb ohonom ym Mhentyrch wedi cael digon o gyfle yn ein tro i weld lluniau’r pentre cyn y datblygu mawr, ac mae’n hawdd deall pam fod gan Mrs Thomas a’i chyfoedion cymaint o feddwl o’r lle. Nid yw bwrlwm ac asbri ein cymdeithas ni heddiw yn ddim byd newydd i’r parthau hyn. Mae gorffennol ein pentre wedi ei drwytho yn hen arferion a thraddodiadau’r Cymry. Wedi’r cwbwl, oni fu’r Fari Lwyd yn fawr ei bri yma? Ac fe gofir Morfydd Thomas yn dda hefyd am yr hen arfer o gadw Gwylnos noson cyn angladd.

Mae ei hatgofion am yr hanesion a glywai gan ei rhieni’n anghyffredin o ddiddorol – fel hanes y gŵr a drigai ym Maes yr Haul yn gweld clociau ar werth yng Nghaerdydd, ac yn rhyfeddu fod y ffasiwn ddyfais yn bod. Wedi dysgu dweud yr amser, prynodd un ei hun, a dylifai trigolion yr ardal i’w fwthyn i weld cloc cynta’r cylch! – Neu’r stori am y niferoedd a âi i Fferm Llwyndaddu er mwyn gweld sut i wneud paned o de, a’i flasu am y tro cyntaf erioed!

Mae Morfydd Thomas yn cofio holl gyffro ymweliad y bws cyntaf â Phentyrch ym Mis Mai 1925, a thaith ynddo o Ben-tyrch i’r pwerdy yn costio swllt a phump. Ac yna, bum mlynedd yn ddiweddarach, dyfodiad trydan i’r pentre, i ddisodli’r lampau olew a’r canhwyllau wnaeth gymaint i ddiddosi’r gaeafau hir a thywyll iddi hi a’i chyfoedion.

Pleser digymysg oedd gwrando ar Mrs Thomas yn rhaffu enwau tai a heolydd y pentre: Penygarn, Pentir Hir, Llwyndaddu, Tŷ Crydd, Penuel Fach, Berthlwyd, Gelli Dawel, Cae Wal, Cefn Bychan, Perthi Bach, Tynywaun. Mae ei hafiaith a’i thafodiaith yn tystio’n ddigamsyniol i’r llewyrch a fu ar y Gymraeg yn y pentre, a does neb yn falchach na hi o weld yr adferiad presennol.

Bu Morfydd a Windsor Thomas yn cadw aelwyd gynnes, groesawus, lawen yma am dros hanner canrif. Fe dystia pawb i’w hiwmor iach, eu lletygarwch a’u caredigrwydd di-ben-draw.

Mae Mrs Thomas yn cael trafferth i symud erbyn hyn, Oherwydd anhwylder ar ei choes, ac wedi tr treulio blwyddyn a hanner mewn ysbytai. Mae hi ar hyn o bryd yn yr ysbyty ym Mhontypridd, ac mae ymweliadau gan ei theulu a’i ffrindiau wedi bod yn gysur mawr. Bu colli ei gŵr dair blynedd yn ôl yn ergyd drom iddi a’i hanhwylder hithau’n prysur waethygu. Ni fynnai driniaeth ysbyty ar y pryd am y teimlai fod rhaid iddi ofalu am y ci bach a olygai gymaint i’w gŵr. Bu Ki-Ki yn gwmni ffyddlon iddi yn ei galar, a phan fu farw’r ci, teimlai Mrs Thomas o’r diwedd ei bod hi’n hen bryd iddi roi sylw i’w anhwylderau ei hun.

Bu’n amhosib sôn am Morfydd Thomas heb sôn am Bentyrch. Mae hi’n ymgorfforiad o bethau gorau’r pentre, ac yn meddwl y byd o’r lle. Ac mae’n braf cael dweud fod pawb sy’n ei hadnabod, yn hen ac ifanc, yn meddwl y byd ohoni hithau, ac yn fawr eu parch a’u hedmygedd ohoni.