Glo yn ardal De Taf Elai
Dros ganrif cyn i byllau glo enwog y Rhondda gael eu hagor roedd bwrlwm y diwyiant glo yn ei anterth o gwmpas mynydd y Garth.
Ar ochr ddeheuol maes glo de Cymru mae’r gwythiennau glo yn dod i’r brig yn Llanilltud Faerdref a Phentyrch ac roedd yn hawdd i godi’r glo a’i werthu ar gyfer cynhesu tai. Cawn ddisgrifiad o’r gweithfeydd glo yng nghofnodion Edward Llwyd tua 1690. Mae’n sôn am weithfeydd glo ym mhlwyf Llantrisant yng Nghastellau, Y Glyn, Rhiw Saeson a’r Traen (Tonyrefail). Dywedodd fod nifer o weithfeydd glo ym mhlwyf Llanilltud Faerdref yn cynnwys Maes Mawr a Maes Bach ac mae adroddiadau fod y glo o Bryn y Menyn yn rhoi tân llachar ond ddim yn parhau yn hir. Felly roedd cyfnod y 17 a 18 ganrif yn gychwyn llewyrchus gyda’r glo yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhesu tai, llosgi calch a datblygu’r diwydiant haearn.
Yn ardal Llanilltud Faerdref mae nifer o wythiennau yn dod i’r brig ac fe drodd Bryn y Menyn, yr ardal i’r gogledd o Neuadd y Pentref, Efail Isaf, yn fwrlwm o dyllu a chloddio. Cludwyd y glo ar gefn ceffylau ac asynnod dros y Garth i Radyr a Chaerdydd a daeth yr Efail yn rhan bwysig o wasanaeth cludiant yr ardal.
Mae Lewis Williams yn “Mallt o’r Dyffryn” yn sôn am yr arferiad yn y 1730’au o baratoi at y gaeaf oer drwy lenwi cytiau glo y ffermydd o byllau Bryn y Menyn. Roedd hefyd nifer o byllau ar y Foel, meddai. Roedd y glowyr a’r glo yn cael eu codi gan raff ac olwyn. Ar ôl gweithio’r wythïen am gwpwl o lathenni a’r awyr yn mynd yn wael, byddant yn gadael y pwll ac yn tyllu pwll newydd nepell i ffwrdd. Felly byddant yn gweithio rhan helaeth o’r glo sy’n agos i’r wyneb, heb boeni am awyru’r pwll, nes bod y nwyon yn gwneud hi’n amhosib i gloddio’n bellach yn y pwll hwnnw. Mae mapiau’r cyfnod yn dangos ardaloedd eang o’r ardal lle defnyddiwyd y ffordd yma o gloddio am lo ar raddfa fechan.
“Mae llawer un yn rofyn
Mynd i weld yr engine
Sy’n tynnu dŵr trwy bibau tin
Ar odrau Bryn y Menyn.”
Yn ardal Pentyrch mae cofnodion y tirfeddianwyr yn 1615 yn dangos gwerthu dau bwll glo i Matthew, Castell y Mynach. Ac yna yn 1639 rhoddir les ar y gwythiennau glo a haearn ar ochr ddeheuol y Garth o gwmpas Craig Gwilym ac uwchben pentref Gwaelod y Garth. Yn 1760’au mae teulu Talbot o Hensol yn rhoi les i gloddio am lo yn Tyncoed, Craig Gwilym a Choed y Bedw. A hyd heddiw fe welir olion ‘bell-pits’ ger fferm Craig Gwilym a’r pyllau wedi’u trefnu mewn rhesi i ddilyn y wythïen.
Wrth i Waith Haearn Pentyrch a Melingriffith ddatblygu o’r 1750’au roedd galw pellach am lo ac fe ddatblygwyd nifer o byllau ar ochr y Garth yn cynnwys Coed y Bedw a’r Lan. Hyd heddiw mae deg mynedfa pwll i’w gweld rhwng Gwaelod y Garth a Tynycoed ac mae ochrau’r Garth yn frith o olion pyllau glo bach.
Ar ddechrau’r 19ed ganrif roedd y tirfeddianwyr am sicrhau fod y glo yn cael ei ddatblygu ar raddfa fasnachol ac fe welir rhes o byllau yn agor ar draws yr ardal o Bontyclun i Waelod y Garth.
Teulu’r Vaughans o Machen fu’n gyfrifol am agor pwll Dyhewid Fach yn Llanilltud Faerdref ond erbyn 1800 roedd Richard Crawshay wedi prynu’r gwaith i’w ddatblygu. Yn yr un cyfnod datblygwyd pyllau yng Ngwaun Miskin, Maes Bach a Maes Mawr.
Roedd Thomas Powell o Gasnewydd wedi datblygu glofeydd yn Sir Fynwy a Chwm Dâr ac roedd ganddo ddiddordeb yn y glo cartref a gynhyrchwyd yn ardal Llanilltud Faerdref. Agorodd Powell bedwar pwll yn yr ardal o dan yr enw Llantwit Works yn cynnwys Ystrad Berwig, Dihewydd a Tynant o 1840 ymlaen. Daeth datblygwyr eraill i’r ardal, agorwyd y rheilffordd o Lanilltud Faerdref i Drefforest yn 1863 ac roedd y cyfnod hyd at 1870’au yn llewyrchus iawn gyda pyllau mawr a bach yn agor ar draws yr ardal.
Ond er yr holl lewyrch ar y diwydiant roedd gwaith y glöwr yn galed ac mae llawer o adroddiadau o ddamweiniau difrifol ac angheuol. Yn ystod y cyfnod hyd at 1850’au roedd plant o dan 15 oed yn rhan bwysig o’r gweithlu ac yn wynebu peryglon enbyd. Ymhlith y damweiniau gwaethaf roedd 12 wedi cael eu lladd yn dilyn ffrwydrad yng nglofa y Lan, Gwaelod y Garth yn 1875. Yn 1849 lladdwyd saith o lowyr yng nglofa Llantwit am fod y caets wedi gorlwytho a disgyn 96 llath lawr i grombil y ddaear.
Oherwydd bod gymaint o ddatblygu wedi digwydd ar draws de Cymru bu gostyngiad ym mhris y glo ac fe effeithiodd hynny ar gyflogaeth yn yr ardal a bu raid i nifer o lowyr symud i’r Rhondda i weithio.
Yn y 1880’au buddsoddwyd mewn nifer o byllau i gloddio’r gwythiennau dyfnach. Agorwyd pyllau’r Meiros, Lanelai, Glyn, y South Rhondda a’r South Cambria. Ar droad y ganrif yn 1900 roedd 300 yn gweithio yn y Meirios a 296 yn y South Rhondda ger Brynna. Roedd 171 yn gweithio yn y South Cambria yn ardal Tynycoed i’r gogledd o Creigiau ond cauwyd y pwll yn 1915. Cau fu hanes rhan fwyaf o’r pyllau yn ystod y dirwasgiad yn y 1920’au heblaw am bedwar neu bump pwll newydd a suddwyd ar droad y ganrif yn Coedely yn 1901, Llanharan yn 1922, Cwm yn 1909, Ynysmaerdy yn 1922 a Nantgarw yn 1910. Daeth gwaith yn y glofeydd hynny i ben yn 1986. Agorwyd gwaith glo brig Llanharan/Llanilid yn y 1970’au gan gloddio 300,000 tunnell y flwyddyn tan 1997.
Diolch i Barry Davies a’r Athro Trevor Boyns ac Ellis Davies am eu gwaith yn cofnodi hanes yr ardal. Mae gwefan welshcoalmines.co.uk hefyd yn gofnod gwerthfawr. Ac mae llu o ymchwilwyr yn parhau i dwrio i grombil y ddaear i chwilio am hen weithfeydd.