GORFFENNOL PENTREF YN AIL-YMDDANGOS. Elin Jones.
Cyhoeddwyd yn Tafod Elái mis Medi 1989
Un o’r mannau harddaf yn ein hardal yw gwarchodfa natur Cwm Llwydrew, rhwng pentrefi Pentyrch a Gwaelod y Garth. Gorwedd y gwarchodfan yn y pant rhwng y Garth ei hun a’r Garth Bach, ac yno cewch ymgolli yn hyfrydwch natur, gwrando ar drydar yr adar, a chael eich swyno gan liwiau cyfnewidiol y tymhorau, a hyn i gyd o fewn i ychydig o filltiroedd o’r M4 a Chaerdydd. Ond y rhyfeddod mwyaf, wrth gwrs, yw hanes y cwm. Bedd hen ddiwydiant ydyw. Hen dramffyrdd yw llawer o’r llwybrau coediog tomenni sbwriel yr hen weithfeydd yw’r bryncynnau; a ffrwynwyd y nant fach brysur er sicrhau pŵer i’r gweithfeydd fu’n ymestyn o’r cwm ar hyd lan yr afon, lle saif tai Heol-y-nant a Heol Berry heddiw.
Gorwedd Cwm Llwydrew ar ffin ddeheuol maes glo De Cymru, lle mae’r gwythiennau glo a haearn yn brigo i’r wyneb ac felly yn hawdd i’w gweithio. O ganlyniad, bu dynion yn crafu’r mwynau o’r ddaear ers canrifoedd – ers yr Oes Efydd, mae’n bur debyg. Bu’r Rhufeiniaid yn cloddio yn ardal Machen, ardal debyg iawn o ran ei daeareg, ac y mae’n bosibl eu bod yn gweithio yma hefyd. Datblygodd diwydiant modern yn gynnar iawn yma. Yn ôl Iolo Morgannwg, codwyd dwy ffwrnais haearn – yr Isaf a’r uchaf – ym mhlwyf Pentyrch yn amser y frenhines Elisabeth 1. Gwyddwn i ddiwydiant haearn De Cymru ddatblygu’n gyflym iawn yn y blynyddoedd hynny. Roedd galw cynyddol am haearn, a daeth Saeson ac Almaenwyr i’n hardal ni i chwilio am fannau addas, am fod hen ardaloedd traddodiadol y diwydiant haearn yn Lloegr yn brin o goed, tanwydd hanfodol y ffwrnais haearn yn y dyddiau hynny. Sefydlwyd nifer o weithfeydd haearn, a chwympwyd fforestydd De Cymru i fwydo’r ffwrnesi, fel y mae’r faled enwog am Goed Glyn Cynon yn ein hatgoffa
Llawer bedwen las ei chlog
(Ynghrog y bytho’r Saeson!)
Sydd yn danllwyth mawr o dân
Gan wŷr yr haearn duon…
Roedd Cwm Llwydrew’n ddelfrydol o safbwynt haearn feistr o’r cyfnod hwnnw. Digon o fwyn haearn, a hynny’n agos i’r wyneb, digon o galchfaen hefyd (pwysig lawn i’r broses o doddi haearn), digon o goed a digon o ddŵr – angenrheidiol i gael pŵer i’r gweithfeydd. Mantais arall oedd bod yr ardal mor agos i’r môr ffactor bwysig mewn cyfnod pan ddefnyddid ceffylau pwn i gario nwyddau. Haws o lawer gludo haearn mewn llongau i Fryste neu i borthladdoedd prysur de Lloegr – neu hyd yn oed ymhellach… Mae’r dystiolaeth gyfoes sy’n ategu honiadau Iolo i’w chael mewn cwyn i’r llywodraeth yn 1574. Roedd gan ddyn o’r enw Ralph Hogge fonopoli ar y busnes o gynhyrchu magnelau, a chwynodd fod Edmund Mathew, perchennog ffwrneisi haearn Pentyrch, yn cynhyrchu gynnau mawrion yno, yn gwbl anghyfreithlon, a, mwy na hynny, yn eu hallforio, efallai i Sbaen. Honnodd fod swyddogion porthladd Caerdydd – pentref bach tlawd yn y dyddiau hynny – yn ofni gwrthsefyll dyn cyfoethog fel Mathew. Parhaodd y cwyno – a’r busnes hefyd, mae’n debyg – am flynyddoedd, prawf sicr o aneffeithiolrwydd y llywodraeth yn y cyfnod hwnnw i sicrhau bod trigolion ardaloedd anghysbell yn cadw’r gyfraith oni bai bod teuluoedd pwysig yr ardaloedd hynny yn cydweithio gyda’r llywodraeth. Mae’n bur debyg i’r ffwrneisi losgi, i’r peiriannau droi, i’r gefeiliau gynhyrchu eu magnelau, ac i’r ceffylau eu cludo i’r llongau yng Nghaerdydd ar hyd teyrnasiad Elisabeth. Ai cynnyrch gweithfeydd Pentyrch oedd rhai o’r gynnau ar longau’r Armada, efallai?
Yn 1602, beth bynnag, gorchmynnodd y llywodraeth Mathew i gau ei ffwrneisi, am iddo gynhyrchu, ac allforio, tua 150 o dunelli o fagnelau ers 1582, pan waharddwyd allforion o’r math. Yn 1609 sefydlwyd comisiwn arbennig i ymchwilio i’r mater. Dywedodd Mathew wrth y Comisiwn iddo gynhyrchu gynnau yn ei weithfeydd ym Mhentyrch a‘ un adeg, ond bod y gweithfeydd bellach wedi eu prydlesu i fasnachwr o Gaerdydd, Peter Samyne (neu Semayne). Cadarnhawyd hynny gan Samyne, a dywedodd iddo rentu’r gweithfeydd oddi wrth Mathew tua naw mlynedd yn gynharach (tuag amser gwaharddiad 1602, efallai?). Yn dilyn yr ymchwiliad hwn, penderfynodd Mathew werthu ei diroedd yn Radur a Phentyrch, a symud i fyw yn Iwerddon – ‘am ei iechyd’ efallai!
Yn ôl pob tebyg, parhaodd Samyne gyda’r hen fusnes, oherwydd pan ymchwiliodd y Cyfrin Cyngor i allforion anghyfreithlon o fagnelau yn 1616, gorchmynnon nhw ddistrywio ffwrneisi Samyne. Nid oes cyfeiriadau pellach at weithfeydd haearn Pentyrch, ac felly mae’n bur debyg i orchmynion y llywodraeth gael eu gweithredu y tro hwn – neu i’r busnes gau o’i hunan.
Ond nid dyna ddiwedd gweithio haearn yn yr ardal. Pan ddechreuodd y chwyldro diwydiannol mawr yn Ne Cymru tua chanol y ddeunawfed ganrif, daeth y diwydianwyr, yr haearn-feistri a’r entrepreneurs yn ôl i Waelod-y-garth ac i Gwm Llwydrew. Ail-sefydlwyd gwaith haearn yno yn 1740. Ychydig a wyddom am ei hanes yn y ddeunawfed ganrif, ond yn 1805 gwerthwyd y ffwrneisi a’r gefeiliau i gwmni Harford, Partridge o Fryste, oedd eisioes yn berchen ar waith tun Melingriffith a gweithfeydd haearn eraill yn Ne Cymru. Yn 1810 gwerthwyd gweithfeydd Pentyrch a Melingriffith i Richard Blakemore, ac aeth ati i greu uned ddiwydiannol gref, gyda’r gweithfeydd haearn yn cynhyrchu nwyddau ar gyfer y gweithfeydd tun.
Cododd ffwrneisi chwyth (y rhai a welir yn y llun), a melinau a gefeiliau. Sefydlwyd ffatri brics ychydig i’r gogledd. Adeiladwyd tai i’r swyddogion a’r gweithwyr, a rhwydwaith o dramffyrdd i gysylltu’r gweithfeydd gyda’i gilydd a gyda’r pyllau lle cloddid y calchfaen, y mwyn haearn a’r glo a ddefnyddid bellach i doddi’r mwyn haearn. Ffynnodd y gweithfeydd yn ystod hanner cyntaf yr 19eg ganrif, ond, fel gweithfeydd eraill De Cymru, dirywio a wnaethant yn ystod ail hanner y ganrif, pan ddarganfuwyd bod mwyn haearn De Cymru yn anaddas i’r dulliau diweddaraf o weithio haearn a dur.
Gosodwyd gweithfeydd Melin-griffith a Phentyrch ar werth yn 1881, ond er i fasnachwr o Lerpwl brynu gwaith Melingriffith, doedd dim diddordeb ganddo yng ngwaith Pentyrch, a dychwelodd hwnnw i feddiant y tir-berchennog. Llwyddodd i rentu’r gwaith, mae’n debyg, oherwydd ceir tystiolaeth bod un ffwrnais chwyth yn gweithio tan 1885. Parhawyd i gynhyrchu llenhaearn (‘sheet-iron‘) yn y gweithfeydd, er yn achlysurol, ond daeth hynny i ben hefyd tua 1915. Aelwydydd oer sydd i’w gweld yn y llun, felly, a dynnwyd tua 1908.
Rhydd y llun argraff arbennig o dda o olwg y gweithfeydd ar ddiwedd eu bywyd — ac am rai blynyddoedd wedi hynny. Roeddynt yn sefyll o hyd tan ddiwedd yr ail ryfel byd, ac yn fan chwarae boblogaidd iawn gan blant y pentref, a hoffai guddio (yn enwedig os oeddynt mewn trwbwl!) yn y twneli a’r fuyeres (pibau awyr y ffwrnesi chwyth). Yna, ar ddiwedd yr ail ryfel byd, penderfynodd y cyngor lleol glirio’r safle, ac adeiladu tai cyngor yno. Aethpwyd ati i wneud hynny, a diflannodd yr hen weithfeydd o’r golwg. Ond nid am byth.
Yn ystod mis Mai a Mehefin 1989, dechreuodd cwmni Lovell Partnership Homes Ltd. ar y gwaith o adeiladu fflatiau i’r henoed ar y darn o dir segur rhwng cefn Heol Berry a’r stad newydd o dai ger yr afon. Wrth iddynt glirio’r safle, agorodd twll yn y ddaear na ellid ei lenwi. Aethant ai i gloddio’r twll, a darganfod dwy o ffwrneisi’r hen waith haearn, wedi eu cuddio o’r golwg ers deugain mlynedd, ond heb eu distrywio. Galwodd swyddogion y cwmni am gymorth arbenigwyr pennaf yn y maes hwn, Philip Riden o Goleg y Brifysgol yng Nghaerdydd. Nid yw ffwrneisi haearn y ganrif ddiwethaf – na hyd yn oed rhai’r ddeunawfed ganrif – yn bethau anghyffredin ym myd archaeoleg ddiwydiannol De Cymru. Ond yr oedd cyfrinach bellach gan y ffwrneisi hyn. Wrth gloddio, darganfuwyd rhan o ffwrnais gynharach fyth. Adeiladwyd y ffwrnais orllewinol (yr un ar y chwith yn y llun) o gwmpas ffwrnais o’r all ganrif ar bymtheg neu’r ganrif flaenorol – un o ffwrneisi gwreiddiol hen waith anghyfreithlon Edmwnd Mathew, yn ôl pob tebyg. Syfrdanwyd yr archeolegwyr, ac aethant ati i’w chofnodi’n fanwl iawn. Prin iawn, iawn yw enghreifftiau o ffwrneisi haearn o’r cyfnod hwnnw. Wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen, darganfuwyd mwy a mwy o olion gweithfeydd yr unfed ganrif ar bymtheg, darganfyddiad hynod o bwysig wrth geisio datrys hanes gweithfeydd haearn y cyfnod hwnnw.
Ond darganfod er mwyn distrywio, gwaetha’r modd. Bydd cwmni Lovell’s yn gwneud eu gorau i ddiogelu a chadw peth o’r safle, ond gyda’r ffwrneisi, a rhai o’r gweddillion eraill, rhaid eu distrywio er mwyn eu hastudio, ac er mwyn diogelu’r safle. Byddai astudiaeth bellach yn golygu blwyddyn o waith, llawer o arian, a hefyd digolledu’r cwmni, a gafodd ganiatâd cynllunio (a sicrwydd nad oedd dim ar ôl o’r hen weithfeydd) gan Gyngor Taf-Elái.
Gobaith yr Ymddiriedolaeth Archeolegol yw cyhoeddi llyfr am y gweithfeydd, fel y bo modd i bawb ddysgu mwy amdanynt. Gobaith haneswyr ac archeolegwyr yw y bydd Cyngor Taf Elái’n meddwl yn ddwysach cyn rhoi caniatâd cynllunio arall i ddatblygu ardal o bwysigrwydd hanesyddol arbennig iawn. Soniodd Iolo am ddwy ffwrnais ym Mhentyrch. Ble oedd – neu ble mae – y llall? Apeliwyd yn ddiweddar ar Gyngor Gymuned Pentyrch i gomisiynu ymchwiliad manwl i archaeoleg yr ardal, rhag ofn i sefyllfa debyg ddigwydd eto, ac i ni ddistrywio, yn ein hanwybodaeth, olion prin gorffennol unigryw’r ardal hanesyddol hon.
Elin M. Jones.