Pen-tyrch a’i Gymeriadau 2002

Pen-tyrch a’i Gymeriadau.     Don Llewellyn

( O Llafar Gwlad 2002)

Cefais fy ngeni mewn pentre bach ar lechweddau Mynydd y Garth – yr ucheldir sy’n edrych i lawr ar ddinas Caerdydd. Mae Pen-tyrch erbyn hyn yn rhan o’r brifddinas ei hunan ond trwy gydol yr oesoedd, roedd gwahaniaethau mawr rhwng y ddau le o safbwynt ein ffordd o fyw, ein diwylliant ac yn enwedig ein hiaith. Hyd at 1974, sef amser y newidiadau mawr yng nghyfundrefn llywodraeth leol, roedd cofnodion Cyngor Plwyf Pen-tyrch yn ddwyieithog. Ers hynny, mae’n flin gennyf ddweud, mae busnes y Cyngor Cymuned yn uniaith Saesneg.

   Mae fy ngwreiddiau yn ddwfn yn yr hen blwyf yma ac fel pob brodor arall, rwyf yn ymwybodol iawn o’r rhan mae Pen-tyrch wedi i chwarae yn hanes yr ardal. Mae yna draddodiad bod pobl gecrus iawn yn byw yma – fel y gellir dychmygu oddi wrth hen ddywediadau fel ‘Rhwng gŵyr Pen-tyrch a’i gilydd’ a ‘Bit rhyddoch chwi gwyr Pen-tyrch!’ A beth am yr hen driban gynt a oedd yn son braidd yn ddiraddiol am drigolion Pen-tyrch?

Pan fo Pen-tyrch yn llawan
Heb falais na chenfigan,  
Fe fydd y mêl yn dod o’r cwar
A ffigysh ar y ddraenan!

   Yn sicr, mae Pen-tyrch wedi ymladd yn gryf ac yn ddewr dros y canrifoedd i gadw’i gymeriad arbennig. Yn ôl yr Athro Griffith John Williams, ‘Bu Pentyrch erioed yn enwog am ei Gymreigrwydd, am ei sêl dros bopeth Cymreig . . . pan oedd yr ardaloedd cylchynol yn cael eu boddi gan for o Seisnigrwydd, parhaodd yr iaith yma yn hoyw ac yn dirf’. Tua deng mlynedd ar hugain yn ôl, buasai’n deg dweud taw Cymraeg oedd iaith gyntaf yr hen frodorion i gyd, gydag amryw o’r canol oed hefyd yn dal eu gafael ar y famiaith. Yn gynnar yn y chwedegau, roedd yr Athro ‘G.J.’ wedi fy annog i fynd allan gyda recordydd sain i siarad â hen frodorion Pen-tyrch rhag i’r dafodiaith ddiflannu am byth. Erbyn hyn, mae gennyf gasgliad amhrisiadwy o ddeuddeg awr o leisiau fy mro ar dap: lleisiau sy’n dangos tinc yr hen Wenhwyseg (curiad calon yr hen Bentyrch) yn llawer gwell nag y gallwn i. Mae’n bwysig cofio mai hon oedd y dafodiaith a siaredid gan ddegau o filoedd o Gymry hyd at hanner can mlynedd yn ôl – y Wenhwyseg sy’n perthyn i ddwyrain Morgannwg a Gwent: iaith Merthyr Tudful, y Rhondda, Aberdâr, Maesteg, Pontypridd, Bargoed, a Rhymni; y Wenhwyseg a fu’n famiaith i lawer o gewri’r de: Dr Joseph Parry, Dr William Price, Dic Penderyn, Islwyn, Mabon ac yn y blaen.

   Mae i bob tafodiaith ei hynodion diddorol. Ym Mhen-tyrch, nid ‘glöwr’ sy’n gweithio dan ddaear ond ‘gloiwr’; ac nid hawdd nac esmwyth yw ystyr y gair ‘rhwydd’ . . . dim ond ‘cyflym’ yw hwnnw. Dwedent: ‘Dera ‘ma’n rhwydd bachan bech’ . . a ‘Duw, me fa’n gallu retag yn rhwydd!’ Nid Sioned yw Janet ond ‘Shenad’. Lle mae’r gogleddwr yn dweud ‘yndi mae o’; mae’r gorllewinwr yn rhoi ‘Odi ma fe’; ym Mhen-tyrch: ‘Odi me fa!’ Wedi’r cyfan, pedair iaith wahanol sydd gennym yng Nghymru, sef ‘Cymraeg’ yn y Gogledd, ‘Cwmrag’ yng Ngheredigion, ‘Cymrag’ yng ngorllewin Morgannwg ac yn Nwyrain Morgannwg a Gwent, ‘Cymreg’ yw hi. Weithiau y dyddiau hyn, mae’r dafodiaith yn destun gwatwar. Mae rhai’n chwerthin wrth ei phen wrth glywed y llefariaid yn culhau a’r cytseiniaid yn caledu; ond mae ‘na burdeb hefyd. Wrth gwrs mae ‘na debygrwydd (camarweiniol) rhwng rhai ffurfiau y Wenhwyseg a llefaru sir Drefaldwyn gyda ‘cel’, ‘bech’ a ‘glen’ . . . a chyffelybrwydd a Gwynedd gyda ‘pocad’, petha’, ‘ceffyla’, ‘bora’, ‘hanas’ ac yn y blaen. Y gwir yw fod y cyfan yn cyfranu at gyfoeth ein hiaith.

 

   I mi wrth gwrs, mae’r acenion lleol yn swnio’n hollol naturiol. Wrth recordio llais Edmund Llewellyn (Emwnt Siedi, neu ‘Shedi’ oblegid taw Shadrach oedd enw ei dad-cu) gofynnais iddo a oedd e’n cofio un Twmws William. ‘Odw’ oedd ei ateb. ‘Wy’n cofio fa ‘net . . . roedd yn dŵad ‘ma acha ceffyl acha dydd Sul o Bontclown. Roedd yn dicyn bech yn drwm o glwad. Fe brotiws â Shenad, merch Ianto Nant yr Arian, cefnithar Shoni bachan Aron ac yn wêr i William “tred clwm”.’

   Ar y tapiau mae llawer o son am gymeriadau lliwgar, yn eu plith beirdd gwlad, cantorion, ymladdwyr, helwyr ac arwyr y cae rygbi. Doedd dim testun gwell na gorchestion tîm rygbi Pen-tyrch i droi sgwrs yn sgarmes, ond wrth gwrs, yn yr ardal hon, ‘y dem’ oedd hi ac nid ‘y tîm’ (tem o geffyla yw’r tarddiad). Pan oedd y bechgyn lleol yn chwarae rhywle yng Nghaerdydd roeddynt yn cael eu hystyried yn estroniaid oherwydd eu hiaith a’u hymarweddiad drygionus. ‘The Welshies are down from the hills!’ oedd y gri. Dim ond chwe milltir i ffwrdd ond roedd yn fyd gwahanol!

   Rhyw bymtheg cant o flynyddoedd yn ôl, roedd Pen-tyrch fel pob cwr a chornel arall o Forgannwg yng nghanol deffroad crefyddol. Daeth Catwg, un o ffigurau mwyaf pwysig yr Eglwys Geltaidd gynnar i’r ardal a sefydlodd ‘gaethbentref’ (a bond village) ger ffynnon yma. Fe’i gelwir yn Ffynnon Gatwg hyd heddiw a Nant Gwladus (wedi ei henwi ar ôl mam Catwg) yw’r ffrwd sy’n dal i redeg ohoni. Nid oedd pawb o lynwyr Catwg Sant yn y pentref yn haeddu cymaint o ganmol a’r dyn da hwnnw. Bechgyn drwg oedd rhai ohonynt i ddweud y lleiaf! Er enghraifft, yn ystod teyrnasiad Elisabeth I, cafodd trosedd fradwrus ei chyflawni gan berchennog Gwaith Haearn Pentyrch. Bu Edmund Mathew yn gwerthu dryllau a phelau cyflegr i’r Sbaenwyr am ugain mlynedd hyd iddo gael ei rwystro gan orchymyn y Cyfrin Gyngor yn y flwyddyn 1602. Nis gwn i a oedd gan Edmund gydymdeimlad ag achos Sbaen; mae’n debygol taw menter fasnachol lwyr ydoedd.

Un o’n cyn-drigolion gwir ganmoladwy oedd John Jones. Cafodd ei eni yn Llwyndaddu Pen-tyrch yn y flwyddyn 1645. Dangosodd addewid cynnar fel ysgolhaig a chafodd ei dderbyn gan Goleg yr Iesu, Rhydychen pan oedd yn ddwy ar bymtheg oed. Yn fuan fe ddaeth yn gymrawd o’r coleg hwnnw. Wedi graddio’n gyntaf yn y celfyddydau daeth wedyn yn ddoethor yn y gyfraith. Gweithiodd fel meddyg yn Windsor ac yn 1691 penodwyd ef yn Ganghellor Llandaf.

   Yn 1683, cyhoeddodd draethawd yn Lladin ar glefydau trofannol, a thua 1700, yn ôl Llyfr Plot (The Natural History of Oxfordshire), dyfeisiodd gloc a gai ei weithio gan awyr yn pasio trwy feginau lledr. Trist yw’r ffaith bod athrylith John Jones wedi’i esgeuluso’n llwyr gan haneswyr gwyddoniaeth yng Nghymru.

Yn fy nghyfnod i, un o’r cymeriadau sy’n sefyll maes yn fy nghof yw Tom Jenkins (Twm Crydd). Rhyw ddiwrnod, roeddwn yn trafod tarddiadau enwau’r ffermydd lleol. Mae enwau Cymraeg yn ei phurdeb o’n cwmpas hyd heddiw – wrth feddwl am ‘Llwyn y Brain’, ‘Hendrescuthan’, ‘Coed Rhiw Ceiliog’, ‘Llwyn yr Eos’ ac yn y blaen – mor swynol ag erioed a sawl un yn cynnwys enwau adar. Cofiaf Twm yn son am yr enw ‘Llwyn y Brain’ ac wrth wrando arno yn dweud ei stori, roeddwn yn ymwybodol o’r elfennau sylfaenol chwedlonol yn ei chynhwysiad. Yn ôl Twm, roedd bachgen yn gwarchod y llafur (hynny yw, yr yd) rhag yr adar. Roedd y crwt yn defnyddio dryll wedi ei lenwi a hoelion yn lle ‘shots’. Pan welodd y brain yn y coed, saethodd atynt. Fel roedd yr hoelion yn mynd trwy goesau’r brain, roedd yr adar yn cael eu glynu’n sownd ar y canghennau. Wrth i’r adar hedfan i ffwrdd, tynnwyd y coed o’u gwreiddiau. Glaniodd y llu gyda’u llwyth enfawr mewn cae yn swydd Henffordd lle’r oedd da (gwartheg) brown yn pori. Cafodd y da gymaint o sioc aeth eu hwynebau’n wyn. Felly fe grëwyd brid newydd! (‘White faced Herefords!’)

   Twm Crydd oedd yn torri gwallt ‘mrawd a fi pob yn ail wythnos ac yn ddi-baid y bydde fe’n tynnu’n coesau ynglŷn â’n tad-cu ‘Dic Soar’. Roedd Twm tua’r un oedran a Dic ac roedd yn gwybod pob dim amdano. Yn ôl Twm, pan yr oeddynt yn ifanc, fe syrthiodd Dic mewn cariad a merch o’r enw Mary Israel a fu’n byw ar y fferm Craig Gwilym – ond roedd llaw yr eneth fach honno wedi ei gado i fab y ficar. Felly byddai Twm yn canu tra oedd e’n tocio’n gwallt:

 

   Y Deryn Du pig felan
A aed di drostoi am dal
Oddi yma i Graig Gwilym
A disgyn ar y wal

A gwed wrth Mari Isral
Am bido bod mor ffôl
A charu meb y ffirad
A gadael Dic ar ôl!

 

   Wrth gwrs, ar y tapiau, mae’r lleisiau yn son am genedlaethau cynharach na fy ffrind Twm. Maen nhw’n gyrru’r gwrandäwr yn syth i’r gorffennol, at gyfnod lle’r oedd llai o ffwdan a ffysg – pan oedd yr holl blwyf bron yn uniaith Cymraeg. Peth arall yr ydyn ni’n codi o’r tapiau yw hiwmor naturiol y trigolion. Fe gewch chi beth blas o hyn tra bod y siaradwyr yn cyfeirio at feirdd gwlad y pentref. Mae cywilydd arnom ni am fod cyn lleied o’u gwaith nhw wedi goroesi. Gafodd ychydig iawn ohono ei sgrifennu lawr wrth gwrs. Roedd y traddodiad yn gryf gyda chystadlaethau yn cael eu cynnal yn gyson yn y tafarnau yn ystod misoedd y gaeaf. Hefyd, a allwch ddychmygu’r golygfa yng Nghefn Bychan ar nosweithiau’r haf pan oedd y beirdd yn ymgynnull o gwmpas yr hen ffwrwm: ‘Y fainc farddol’. ‘Angladd y Mochyn’ oedd y testun ar un achlysur a dyma waith Oli Pritchard am y digwyddiad hwnnw:

Mae holl drigolion Cefn Bychan
Wedi cael eu taro’n syn
Trwy i angeu ddod mor sydyn
A thorri lawr y mochyn gwyn
Gweithiwr tlawd yr oedd ei berchen,
Ben Drescuthan ydoedd e
Gwnewch gydymddwyn trwy roddi arian
I gael mochyn yn ei le.
Yn ei angladd roedd personau,
Boneddigion penna’r wlad,
William Pritchard, Betasea
A William Gruffudd, yr hen dad,
Jim gwr Rhoda, Ben Drescuthan
Wil ei frawd a Twm Ton Mawr
Oli Lisa, Dai mab Letis,
Dyna eu henwau’n drefnus ‘nawr.

  Rwy’n cofio Twm yn son am ddyn o’r enw Jona a oedd yn byw yn ‘Gwrt y Carna’. Fe fu merch yn byw mewn tŷ cyfagos ac roedd Jona yn caru shia hi er ei bod hi’n dlawd ei hiechyd.

Daw jaioni byth o Jona
Sy’n byw yn Gwrt y Carna
Fe ddaws ei serch ar ferch Tŷ Bech
Sy ddim yn iech sblynydda!

   Cofiwch, dydw i ddim yn son am feirdd o safon yma. Rwy’n deall hynny. Dim ond dynion (rhai ohonynt yn hollol anllythrennog) a oedd yn mwynhau dodi geiriau syml at eu gilydd. Un arall oedd Twm Rees o Shini Colas (hynny yw, St Nicholas). Roedd y Twm hyn yn cyrchu tafarn Y Rock yn y pentre ‘ma o dro i dro. Yn gweithio ar hyd y ffermydd oedd e, o un fferm i’r nall . . . a chêl cwpl o syllta a off a fe i’r dafarn nes bo hi’n stop tap. Bysa fa’n cysgu mewn sguboria ‘ma a co. Ond rhyw nyswith yr oedd wedi cêl gormod yn y dafarn ac ar ei ffordd i ffindo rhywle i gysgu fe gwmpws a dorws ei goes. Ac fel hyn y canodd a’:

Os olad rhwyn pwy’n oedd y bardd
Atebad rhwyn o’r dyrfa
Cael llanc o’r fro a ddaeth am dro
A digon o gyneddfa
Yn Shini Colas gewch chi’r hanas
Mewn lle ganad, mewn lle cynnas.
Mae e a’i arian yn yr Union
Yn lle cyfiawn i ddod yn gyfan
Wedi cwmpo’n gros
Ar hanner nos
A thorri cos ei hunan!

   Cymeriad arall oedd Siôn y Mynydd. Un diwrnod, roedd yn ymddangos o flaen yr anadon ym Mhontypridd ar gyhuddiad o fod yn feddw ac yn gorwedd yn y gwter. Gofynnodd cadeirydd y fainc os oes rhywbeth ganddo i ddweud yn ei amddiffyniad.

  ‘Wel,’ medda Siôn . . . ‘roedd y bai ar y ddau ddyn a oedd yn dal fi lawr!’

‘Dau ddyn?’ gofynnodd y cadeirydd,
‘Dau ddyn? . . . yn ôl y plismon roet ti ar ben dy hunan! . . . beth sy . . . ‘

Wel, roedd dau ddyn yn dal fi lawr ta be dwedodd hen Siôn.

‘Wel, pwy oedd y dau ddyn yma ta?’

‘Mitchell a Butler syr,’ medda Siôn, ‘Mitchel a Butler.’

   Dros y canrifoedd mae trigolion Pen-tyrch wedi ennill enw am fod yn ofergoelus. Roedd ganddynt gred ddofn yn y byd gornaturiol. Rwy’n cofio fy hunan storïau ynglŷn â’r Ceffyl Dwr, y Toeli, Jac y Lantarn, a’r ysbrydion i gyd a oedd yn cyrchu corneli tywyll y plwyf. A beth am ‘Y Ladi Wen’. Mae pobl yn fyw heddiw ym Mhen-tyrch sy’n barod i ddweud eu bod nhw wedi gweld y ddrychiolaeth ‘na. Dywedir yr unig ffordd o osgoi y weledigaeth ddychrynllyd oedd i adrodd y pennill . . . pennill a safodd ar wefusau plant gwirioneddol ddiniwed fy nghenhedlaeth i:

 

Ladi Wen ar ben y pren
Yn naddu cos ymbrelo
Me’n un o’r gloch
Me’n ddou o’r gloch
Me’n brid i’r moch gel cino.

Roedd ein hewyrth yn rhybuddio pawb wastod gyda:

‘John Jones, cau dy ben
Paid a holi’r Ladi Wen
Neu daw barn ar dy ben.’

   Atgofion niwlog sydd gennyf o’r addysg a gefais yn ysgol bentre Pentyrch. Teml i addoli arwyr Lloegr oedd hi yr adeg honno beth bynnag, lle dysgais am Robin Hood a Hereward the Wake, Drake a Nelson, Wellington a William Pitt. Fawr o ddim am hanes Cymru. Felly hoffwn gael fy ystyried yn un o fethiannau mwyaf llwyddiannus yr ysgol honno!

   Ond mae’n rhaid i mi gyfaddef fod gennyf atgofion melys hefyd.

   Mae’n dda gennyf weld y ffordd y mae’r ysgolion lleol heddiw yn ennyn diddordeb y plant ym mywyd ac yn hanes eu hardal. Trueni fod cymaint â oedd yn ddiddorol wedi diflannu yn ystod y gorffennol agos. Er fy mod yn perthyn i’r genhedlaeth honno a welodd ddirywiad yr iaith, pleser mawr ydyw cofio’r dylanwadau cynnar. Ni all dim fod yn fwy torcalonnus na gweld bro wedi colli ei thraddodiadau a phob cof am y pethau a fu. Llongyfarchiadau i aelodau Clwb y Dwrlyn Pen-tyrch am ei hymdrechion i adfywio’r hen ddefod . . . y Fari Lwyd. Atgof sy’n dod yn ôl yn gryf yw fy ngolwg cyntaf o’r ddau frawd Twm a Shoni Caerwal a’u ‘cyfeillion diniwad’ yn cyrraedd gyda’r Fari. Llais tenor Twm yn canu’r hen don – mae’n dal i rewi fy esgyrn hyd heddiw:

 ‘Mae gen i hen Fari – y lanha yn Gymru
Y lana yn Gymru nos Heno . . . ‘

   A llais y baswr Dai Jones yn ateb:

   ‘Does gen ti ddim Mari; hen fwlsyn sy gennyt ti . . . a stwffa’n hen recsyn . . . ‘ a.yb.

   O, am y dyddiau a fu!

   Un stori arall. Ym mis Rhagfyr 1951 roedd mast teledu y Wenfo yn cael ei adeiladu ar gyfer y trosglwyddiad cyntaf o deledu yng Nghymru a Gorllewin Lloegr oedd i fod yn dechrau yn y mis Ionawr canlynol. Roedd y mast yn hawdd i’w weld oddi wrth Pentyrch ac yr on ni’n gallu gweld y polyn yn tyfu dydd wrth ddydd. Roedd Twm Crydd ag Edmund Shedi yn eistedd ar y ffwrwm oedd yn gyferbyn a’r Lewis Arms ac roeddynt yn edrych i lawr tuag at y Wenfo. Roeddynt wedi sylwi fod polyn arall, llai na hanner uchder yr un tal, wrth ei ochor. Dyma Twm yn gofyn i Edmund: ‘Beth yw pwrpas y polyn byr ‘na ta Edmwnt?’

   ‘I raglenni plant weden i,’ medda fa!

   Ffurfiwyd Cymdeithas Hanes Lleol Pen-tyrch yn 1993 ac mae’n mynd o nerth i nerth. Ar hyn o bryd mae dros gant o aelodau sydd â diddordeb iachus yn y gorffennol – yn ogystal ag edrych tuag at y dyfodol gyda gobaith a hyder. Yn bersonol, er fy mod yn hiraethu am gyfnod y tai toydd gwellt a fu’n nodweddu’r fro yn ystod fy mhlentyndod, a’r iaith nefol a symudodd tafodau’r brodorion, yr ydwy’n gweld arwyddion fod dyddiau da i ddod. Rwyf yn hyderus fod y dylifiant o waed newydd, tafodieithoedd ac acenion newydd sydd wedi cyrraedd y gymuned yn creu gobaith newydd i bob un ohonom. Pwrpas ein cymdeithas yw sicrhau y bydd rhai o agweddau’n gorffennol gyda ni am byth. Er gwaetha’r newidiadau, heb amheuaeth mae adlais yr hen amserau yn aros; ar bob awel mae hen ysbrydion yn sibrwd, ac ar bob pelydr haul cewch gip ar anturiaethau’n cyn-bentrefwyr.

 

Don Llewellyn (Cadeirydd Cymdeithas Hanes Lleol Pen-tyrch)