Côr Glannau Glaslyn
Ffurfiwyd y côr yn 1951 ym Mhorthmadog o blith athrawon, pobl busnes a gwragedd tŷ yr ardal.
Yn Eisteddfod Llanrwst 1951 enillwyd y Cwpan Her Arian yn y brif gystadleuaeth i Bartion Cerdd Dant a daeth yn ail yn 1952 yn Eisteddfod Aberystwyth. Enillwyd y gystadleuaeth eto yn 1953 yn Rhyl ac wrth ennill yn Ystradgynlais yn 1954 daeth yr hawl i gadw’r Cwpan Arian.
Yn Nhachwedd 1954 aeth y Côr i berfformio yn y Festival Hall, Llundain.
Bu’r côr hefyd yn rhan o ffilm Noson lawen a grëwyd gan Walt Disney.
Yn 1958 cyhoeddwyd record LP.
1952
1954
Dathlu yn Ystradgynlais 1954
Tachwedd 1954 Festival Hall Llundain
Noson Lawen tua 1954