Hanes E-chlysur y Mentrau Iaith
Cefndir
Dyfeisiwyd y We Byd Eang yn 1989 ac fe’i ddatblygwyd nes bod yn bosib ei ddefnyddio o’r tŷ ar linell ffôn yn 1996 gyda Compuserve ac yna yn 1999 gyda Tesco.net a Freeserve. Dechreuwyd datblygu BandEang (Broadband) yn y flwyddyn 2000 a cyrhaeddodd Caerdydd yn 2002 – 2004.
Sefydlwyd Menter Taf-Elái yn 1992 a Menter Caerffili, Caerdydd a Bro Ogwr yn 1998.
Sefydlu Gwefannau
Yn y flwyddyn 2001 daeth pedwar Menter Iaith at ei gilydd – Menter RhCT, Caerffili, Bro Ogwr a Chaerdydd a llwyddwyd i gael grant gan Gronfa LloydsTSB i sefydlu gwefannau i’r Mentrau. Cwblhawyd y gwefannau yn ystod 2001-2002.

Syniad E-chlysur
Penodwyd Sian Lewis, yn Swyddog Datblygu Menter Caerdydd yn 2002, ac roedd hi’n awyddus iawn i greu sustem i ddanfon allan e-byst i bobl gael gwybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau Cymraeg. Aethpwyd ati i gasglu cyfeiriadau ebost gan bobl ym mhob cwr o’r ddinas ac erbyn y lansiad roedd dros 3000 wedi cofrestru. Paratowyd sustem gan Wyn Jones i ddanfon allan ebyst ar ddechrau 2003 a lansiwyd y system a alwyd yn e-chlysur ar 31 Mawrth 2003.
Yn gynnar yn 2003 datblygwyd sustem Digwyddiadur gan Penri Williams i Fenter RhCT yn bennaf i gasglu at ei gilydd y gwahanol ddigwyddiadau oedd yn cael eu cynnal yn nhair ardal y Fenter.
Ac erbyn diwedd 2003 roedd y sustem Digwyddiadur ac e-chlysur wedi eu cyfuno gan Penri er mwyn ei wneud yn weddol hawdd i ddanfon allan ebyst yn cynnwys poster jpeg am ddigwyddiadau.
Wrth i’r sustem e-chlysur gael ei brofi penderfynwyd ei ehangu i’r pedwar Menter oedd yn rhan o’r datblygiad gwreiddiol ac erbyn diwedd 2004 roedd defnydd helaeth yn cael ei wneud o’r sustem.
Un elfen bwysig o’r e-chlysur oedd ei fod ar gael yn Gymraeg yn unig i siaradwyr Cymraeg ac yn ddwyieithog i Ddysgwyr a’r di-Gymraeg. Credir fod angen sicrhau gwasanaeth uniaith Gymraeg i gymaint o bobl ac sy’n bosib.
Hefyd wrth gofrestru roedd cyfle i ddewis gwahanol agweddau o waith y Fenter fel nad oedd ebyst di-angen yn cael eu danfon.
Wrth i aelodaeth Mentrau Morgannwg Gwent dyfu cyflwynwyd y sustem i Fentrau Merthyr ac Abertawe yng Ngorffennaf 2005 a Castell Nedd Port Talbot yn Hydref 2005 yna Menter Patagonia 2006 a Menter Blaenau Gwent Torfaen a Mynwy 2007.
Roedd y sustem digwyddiadur hefyd yn darparu ffrwd RSS o’r gweithgareddau gellid eu cyfuno gyda ffrydau eraill a’i darllen yn eang.
Yn 2004/2005 roedd Bwrdd yr Iaith wedi sefydlu gwefan newydd i’r Mentrau gyda fersiwn o echlysur ond doedd o ddim yn gweithio a daeth cais o rai o’r Mentrau i ddefnyddio yr Echlysur gwreiddiol.
Am gyfnod o dros deuddeg mlynedd defnyddiwyd y sustem E-chlysur yn helaeth gan y Mentrau uchod. Amcangyfrifir fod dros 7,000 o bobl wedi derbyn ebyst echlysur a bod dros 6500 o ddigwyddiadau a gwybodaeth wedi ei ddosbarthu mewn dros 6 miliwn o ebyst! Nid yw’r tabl isod yn cynnwys yr holl ddigwyddiadau ond mae’n rhoi syniad. Am gyfnod roedd brwdfrydedd sylweddol gan drigolion yn Rwsia a Rwmania i gofrestru yn y sustemau e-chlysur i weld pa ddrygioni oedd yn bosib ond llwyddwyd i atal unrhyw niwed!
|
Menter |
Blwyddyn Cychwyn |
Blwyddyn Gorffen |
E-chlysur |
Pobl |
Cyfanswm Ebyst |
||
|
Caerdydd |
2003 |
2010 |
1254 |
2178 |
2731212 |
||
|
RhCT |
2004 |
2017 |
729 |
860 |
626940 |
||
|
Bro Ogwr |
2004 |
2015 |
379 |
626 |
237254 |
||
|
Caerffili |
2004 |
2014 |
1047 |
801 |
838647 |
||
|
Merthyr |
2005 |
2017 |
648 |
442 |
286416 |
||
|
Abertawe |
2005 |
2013 |
1190 |
798 |
949620 |
||
|
Castell Nedd Port Talbot |
2005 |
2015 |
679 |
726 |
492954 |
||
|
Patagonia |
2006 |
2013 |
49 |
102 |
4998 |
||
|
Blaenau Gwent Torfaen Mynwy |
2007 |
2015 |
323 |
271 |
87533 |
||
|
6804 |
6255574 |
Roedd y sustem e-chlysur yn llwyddiannus iawn a denodd llawer o bobl i ddigwyddiadau Cymraeg. Cymerodd gryn amser i’w orseddu. Penderfynodd Menter Caerdydd creu eu sustem eu hunain yn 2010 i ddanfon negeseuon oedd ddim yn seiliedig ar amser y digwyddiad. Daeth sustemau newydd megis Facebook Events a Thrydar i gynorthywo’r Mentrau. Penderfynodd nifer o Fentrau o 2013 ymlaen ddefnyddio sustem masnachol MailChimp i ddanfon negeseuon.
Daeth y sustem gwreiddiol e-chlysur i ben yn Chwefror 2017.