Ionawr 2020

31 Ionawr Abertridwr i’r glaw 5.7 milltir Penri, Eifion, Dewi, Rhodri, Colin, Rowland

24 Ionawr 2020 Meisgyn a Cross Inn o Creigiau 9 milltir  Rowland, Colin, Rhodri, Eifion, Dewi Penri

17 Ionawr 2020 Rhydfelin ac Parc Ynysangharad 7.4 milltir 


Llwybr yng nghanol Rhydfelin

10 Ionawr 2020 Meisgyn a Llantrisant 7.5 milltir Colin, Rhodri, Dewi, Eifion, Penri

Yn ôl y chwedl – Mynachlog Cawrdaf Meisgyn. Ond yn ôl Cadw – Tŷ Alltygawrddu o’r oesoedd canol. Tŷ gyda tair adain a chwrt yn y canol aeth yn adfeilion tua 1530.

Chwedl am y Brenin Arthur  yn y Cyfnod tua 510 A.D.  –

Pencoed House Llanilltern

Yn  ôl  traddodiad safle tŷ (manor  house)  Brenin Arthur a Brenhines Gwenhwyfar merch Gwythur Mawr. Claddwyd hi yn Eglwys Llanilltern

Mynachdy St Cawrdaf yn Castell y Mynach, Mesigyn

Wedi  ei  guddio  mewn coedwig  ar  ochr chwarel Meisgyn mae hen gartref Sant Cawrdaf  tad Melwas (Medrawd  neu Modred).  Mae’n eitha tebyg bod  dau Modred  ac  fu  cymysgu hanes  eu  bywydau  yn  y chwedlau. Roedd un yn gyn-gariad ail wraig y Brenin Arthur.  Dwy  filltir a hanner i’r gogledd  ddwyrain saif hen Gaer a elwir yn Arthur’s Buttresses. Caer authentic i oes Arthur.  Rhwng y caer a’r Mynachdy saif  llwyn  lle y cwrddai’r cariadon a gelwir yr ardal hyd heddiw yn Llwyn Milwas. Fe redodd  y cariadon i ffwrdd gyda’i gilydd ond iddynt gael eu hela gan y Brenin ffyrnig. Fe dorrwyd Gwenhwyfar yn ddarnau mân gan gŵn hela’r Brenin Arthur.

Saif  Llanbedr y Mynydd ar darddiad yr Afon Ewenni ymhell o unrhyw bentref mewn safle eitha od. Yn  ôl yr hanes fe ddywedid mai yma y claddwyd y Brenin Arthur.

Simnai mwynfeydd plwm yr Hendy, Meisgyn.