Cylch Cadwgan

                 Cylch Cadwgan

Pam Cadwgan?

Yn y 12eg a 13eg ganrif bu ymladd rhwng y Normaniaid a’r brodorion lleol am yr ardal rhwng y Taf a’r Elái am ymron i 150 mlynedd. Ac er i Richard de Clare lwyddo yn 1245 i ddal ei afael ar gastell Llantrisant fe gododd Cadwgan Fawr neu Cadwgan Lly hog y Fwyell i arwain y werin bobl.

Roedd Cadwgan yn un o deulu Penllwyn Cynfyn a ddaeth yn wreiddiol o Sir Frycheiniog. Cawsant yr hawl i’r tir a elwir Penllwyn Cynfyn rhwng Creigiau a Phentyrch gan Arglwyddi Cymreig Meisgyn.

Yn ôl hanes y cyfnod fe frwydrodd Cadwgan Fawr i amddiffyn hen draddodiadau a hawliau’r werin bobl. Ei fwyell finiog oedd ei hoff arf a fu’n fodd i sicrhau fod yr iaith Gymraeg a’i thraddodiadau yn parhau yn fyw yn yr ardal hon.

Am i’r un dros Gymru well – roi ei gorff
I’r gad yn ddigymell
Yn y byd ac yntau’n bell
Nawr fi sy’n hogi’r fwyell.

Trefnwyd gan –

Cangen y Garth, Merched y Wawr. Capel Tabernacl, Efail Isaf.
Clwb y Dwrlyn.   Cymdeithas Gymraeg Llantrisant.
Capel Bethlehem, Gwaelod y Garth

Cydnabyddir cefnogaeth Llenyddiaeth Cymru

2001-02
Y Taeogion, John Ogwen a Maureen Rhys, Angharad Tomos, Sioned Davies.

2002-03
Mererid Hopwood – ‘Fflŵr a Dŵr a Dyddiau Da’
Lyn Ebenezer – Profiadau Rhith Awdur
Grahame Davies
Branwen Jarvis – ‘Saunders Lewis: ai Pabydd wedi’r cyfan?’

2003-04

Bethan Gwanas, Angharad Price, Gwyn Griffiths, Allan James.

2004-05

Elfyn Pritchard, Twm Morys, Manon Rhys, Owen Martell.

2005-2006

Dr Dylan Foster Evans, Jerry Hunter, Emyr Lewis, Nesta Wyn Jones

2006-2007

Yr Athro Geraint Jenkins, Mari Emlyn, Damian Walford Davies, Y Prifardd Tudur Dylan, Dr. John Davies

2007-2008

Cennard Davies, Dr Christine James, Catrin Dafydd, Aled a Jim Jones.

2008-2009
Parch Huw Jones ac Arfon Gwilym – ‘Stori Hwiangerddi’
Dr Richard Wyn Jones – Rhoi Cymru’n Gyntaf: ‘Dulliau Chwyldro’ neu’r llwybr seneddol?
Gareth Miles – Oes o Sgwennu
Menna Elfyn a Fflur Dafydd

2009 – 2010
Caryl Lewis.       
Yr Athro Prys Morgan -‘Enwau Teulu’r Cymry’
Y Prifardd Ceri Wyn Jones – ‘Mynd a dod mewn dwy iaith’.
Y Prifardd Cen Williams

2010 – 2011
Y Prifardd John Gwilym Jones – ‘Llenyddiaeth mewn emyn’
Lowri Roberts – ‘Canu Clod y Campau’
Cefin Roberts – ‘Dylanwadau’
Yr Athro M. Wynn Thomas – ‘Barddoniaeth Grefyddol R. S. Thomas’

2011 – 2012
Hywel Gwynfryn – ‘Hugh Griffith’
Idris Reynolds – ‘Dic’
Dr Catrin Stephens – ‘Llenydda i Blant’
Aneirin Karadog

2012 – 2013
Sharon Morgan
Ned Thomas – ‘Bydoedd’
Y Prifardd Alan Llwyd – ‘Kate Roberts’
Aled Gwyn – ‘Crafion’

2013 – 2014
Geraint Jones – ‘Ffaith a Ffuglen’
Euryn Ogwen Williams
Gwynn Mathews – ‘Hen Chwedlau Newydd’
Myrddin ap Dafydd

 2014 – 2015
Yr Athro Gareth Ffowc Roberts – ‘Mae Pawb yn Cyfrif’
Catrin Dafydd
Lynn Davies – ‘Iaith ac Arferion y Glowyr’
Llŷr Gwyn Lewis
Heini Gruffudd – ‘Yr Erlid’

2015 – 2016
Gareth F Williams – ‘Y Busnes o Sgwennu’
Walter Brooks – ‘Patagonia 150’
Yr Athro E Wyn James – ‘William Williams Pantycelyn, Ann Griffiths a Llenyddiaeth y Mudiad Cenhadol’
Y Prifardd Geraint – ‘Geraint a Gerallt’

2016 -2017
Karen Owen – ‘Lein a bît yng nghalon bardd’
Gruffudd Owen – ‘Hel llus yn y glaw’
Dr Wynne Davies
Y Prifardd Cyril Jones – ‘Lan a Lawr Lôn Lacs’
Meg Elis

2017 -2018
Gwynfor Dafydd
Vaughan Roderick – ‘William Williams Pantycelyn’
Dr Hywel Griffiths
Aled Islwyn – ‘Tair afon – Un dinas’
Elinor Wyn Reynolds – ‘Anturiaethau mewn Barddiniaeth’

2018 -2019
Emyr Davies – ‘Trosi Cerddoriaeth Gorawl’
Yr Athro Dylan Foster Evans – ‘Hanes y Gymraeg ym mro Cylch Cadwgan’
Dr Rowland Wynne – ‘Gwell Dysg na Golud Gwron Cwmsychbant’
Ffion Dafis – ‘Syllu ar y Walia’
Ioan Kidd

2019  – 2020
Frank Olding – ‘Eilun’
Don Llewellyn – ‘Straeon Cymeriadau Ardal Y Garth’
Yr Athro Geraint Jenkins – ‘Y Ddigymar Iolo Morganwg’

2021 – 2022 
Ar Zoom – Lleucu Roberts enillydd Gwobr Daniel Owen a’r Fedal Ryddiaith
Ar Zoom – Glenys M Roberts – Myrdd o ryfeddodau – Rhai hoff gerddi
Ar Zoom – Yr Athro Gerwyn Williams – ‘Delweddau o Cynan’
Gwyn Roberts – Hanes Tryweryn

2022 – 2023
Noson yng nghwmni Delwyn Siôn
Ar Zoom – Noson yng nghwmni Sioned Erin Hughes
Vaughan Hughes “Y Cyfansoddiadau – y ffraeo a’r gwobrwyo”
Noson yng nghwmni Ifor ap Glyn

2023 – 2024
Cyril Jones ‘Man Gwyn y Smotyn Du’
Prys Morgan ‘Atgofion o Bethlehem a Salem Gwaelod-y-garth’.
Emlyn Davies ‘Y ddau gochyn!’.
R. Gwynedd Parry ‘“Yn Goron o Wladgarwr”: Y Barnwr Gwilym Williams o Feisgyn’.
Sgwrs gan Roy Noble

2024 – 2025
Dafydd Morse yn siarad am feirdd Pontypridd a Chlic y Bont
Rheinallt Llwyd yn siarad am Islwyn Ffowc Elis ar ganmlwyddiant ei eni
Eurig Davies yn siarad am ‘Peter Williams a’i Feibl – arwr cenedlaethol neu heretic?
Daf James yn siarad am ei ddramâu.
Eurgain Haf, enillydd y Fedal Ryddiaeth yn siarad am ei nofel ‘Y Morfarch Arian’

2025 – 2026
Owain Rhys, Prifardd Eisteddfod Wrecsam 2025
Sgwrs gan Bethan Mair
Anthony Evans – Llwybrau Cudd
Hefin Mathias “Lloyd George”
Gethin Russell-Jones – Cyfrinachau Bletchley Park

 


Y Cylch Cadwgan Cyntaf gyda’r Taeogion yn 2001

Twm Morys

Y Parch Huw Jones

Ffion Dafis

Y Prifardd Geraint Lloyd Owen

Don Llewellyn

Yr Athro Geraint Jenkins

Gwyn Roberts gydag Ann Williams

Owain Rhys

Eurgain Haf

Prys Morgan

Anthony Evans

Aled a Jim Jones, Parc Nest

 

2021 Hydref

15 Hydref 2021  8 milltir  Glyn Rhodri Eifion Colin Penri

8 Hydref 2021 8.3 milltir  Dewi Penri Glyn Eifion Peter Rowland

Dewi yn troedio llwybr pren uchel yn Tynycoed

1 Hydref 2021 7.2 milltir

24 Medi 2021.  10.4 milltir. Colin Rhodri Dewi Penri

17 Medi 2021 . 9 milltir Y Garth a Bad Uchaf. 

Croesawu Peter yn ôl

10 Medi 2021 7 milltir Y Fro ac Afon Elái

3 Medi 2021 9 milltir – Mynydd Caerffili a Chwm Nofydd Rowland Glyn a Colin

 

27 Awst 2021 Y Bontfaen – 7 milltir – Chwilio am Iolo Morganwg

20 Awst Y Garth a Craig yr Allt – 10 milltir

Craig yr Allt o’r Garth

 


Y Garth o Graig yr Allt

13 Awst 2021 Twmbarlwm (1372tr). 8.3 milltir yn y glaw. Archeolegwyr ar y gaer.

Cymdeithas Archeolegol Clwyd Powys www.twmbarlwm.co.uk

6 Awst 2021 – 6.7 milltir Allt yr Yn Casnewydd

 

30 Gorffennaf 2021 – 9 milltir

23 Gorffennaf 2021 – 6.5 milltir

Tarren Deusant

 

16 Gorffennaf 2021 – 8 milltir

Tonysguboriau o’r Bili Wynt

9 Gorffennaf 2021 – 8.3 milltir

2 Gorffennaf 2021 – 8.5 milltir

25 Mehefin 2021 – 7.5 milltir

18 Mehefin 2021 – 6.5 milltir

11 Mehefin 2021 – 8.7 milltir

4 Mehefin 2021 – 9 milltir

28 Mai 2021 – 8.0 milltir

14 Mai 2021 – 8 milltir

7 Mai 2021 – 8 milltir 

30 Ebrill 2021 – 8.6 milltir – Rheilffordd Coed y Gof 

23 Ebrill 2021 – 7.5 milltir – Glofeydd Creigiau

16 Ebrill 2021 – 9 milltir

9 Ebrill 2021 – 7.8 milltir

2 Ebrill 2021  8.5 milltir Dewi a Colin 

 

Cerdded Cadwgan

8 Medi 2023 Y Garth 8.9 Milltir

   

1 Medi 2023 Dinas Powys  5.8 Milltir

25 Awst 2023 Llanishen 10 Milltir

 

 

 

 

Morfydd Thomas, Pentyrch

Portread y Mis

Morfydd Thomas, Pentyrch

Cyhoeddwyd yn Tafod Elái Hydref 1987

Bu treulio awr neu ddwy yng nghwmni Mrs Morfydd Thomas yn ddiweddar yn gyfle i mi gael cipolwg ar fywyd cymdeithas gyfan, Cymraeg ei hiaith, fu’n troedio llwybrau’r pentre yma ymhell cyn i rai fel ni feddwl am gartrefu yn unman.

Disgynyddion y rhain sy’n troi i’r Gymraeg yn siopau’r pentre heddiw, wrth glywed ein parabl ni a’n plant. Maen nhw wedi gweld y cylch cyfan, o unieithrwydd Cymraeg y pentre, drwy’r Seisnigo anochel, i’r adfywiad presennol dan law Cymry dŵad fel ni, a’r teuluoedd brodorol hynny sy’n mynnu bod eu plant yn ail-afael yn yr iaith.

Mae Morfydd Thomas yn un o’r tystion hyn, ac mae hi’n diolch am gael gweld y llanw wedi’r trai. Ei hunig ofid yn hyn o beth yw bod capeli Cymraeg Pentyrch i gyd wedi eu chwalu, eu trawsnewid neu eu Seisnigo cyn i ni gyrraedd.

Fe gofia hi gyda balchder am ddiaconiaid Capel Penuel yn gwrthod cydymffurfio â chais Norwyiad o’r enw Mr Schroeter, arferai fyw yn Greenhurst. Roedd yn Fedyddiwr rhonc, a gofynnodd am gyfarfod â diaconiaid Penuel gyda golwg ar droi un gwasanaeth bob Sul yn un Saesneg, fel y gallai ymaelodi. Gwrthodwyd ei gais ar y sail nad oedd digon o drigolion y pentre’n deall Saesneg, ac mai Cymraeg oedd iaith holl blant yr Ysgol Sul. Aeth Mr Schroeter yn ei flaen i sefydlu’r “Pentyrch Mission” yn un o fythynnod Castell Cottages, wrth ymyl Y Garej, ac fe barhaodd aelodau Penuel i addoli yn eu mamiaith.

Un o’r “Cae Wals” yw Morfydd Thomas ac mae’n falch o’i thras. Cae Wal wrth ymyl Field Terrace, oedd cartref ei thad, Richard Davies, a Dic Cae Wal oedd o i bawb o’i gydnabod. Margaret Gelli Dawel oedd ei mam. Safai Gelli Dawel ar ben ucha Heol Goch, wrth ymyl Penygarn. Yn Gelli Dawel a Chae Wal y bu Mrs Thomas hithau gydol ei phlentyndod, ar wahân i ddeunaw mis yn Ynyshir, pan benderfynodd ei rhieni y byddai’n well symud yno i fod yn nes at waith ei thad. Ond bu blwyddyn a hanner o Bentyrch yn fwy na digon i’r teulu, ac yn ôl y bu raid dod.

Wedi gadael yr ysgol, bu Mrs Thomas yn gweithio i gwmni cyhoeddi William Lewis, Penarth Road, yn darllen llawysgrifau. Fe briododd â Windsor Thomas, o Waelod y Garth, ac yn ystod y rhyfel bu’n gweithio fel teleffonydd yn Swyddfa’r Post yn Radur.

Mae pawb ohonom ym Mhentyrch wedi cael digon o gyfle yn ein tro i weld lluniau’r pentre cyn y datblygu mawr, ac mae’n hawdd deall pam fod gan Mrs Thomas a’i chyfoedion cymaint o feddwl o’r lle. Nid yw bwrlwm ac asbri ein cymdeithas ni heddiw yn ddim byd newydd i’r parthau hyn. Mae gorffennol ein pentre wedi ei drwytho yn hen arferion a thraddodiadau’r Cymry. Wedi’r cwbwl, oni fu’r Fari Lwyd yn fawr ei bri yma? Ac fe gofir Morfydd Thomas yn dda hefyd am yr hen arfer o gadw Gwylnos noson cyn angladd.

Mae ei hatgofion am yr hanesion a glywai gan ei rhieni’n anghyffredin o ddiddorol – fel hanes y gŵr a drigai ym Maes yr Haul yn gweld clociau ar werth yng Nghaerdydd, ac yn rhyfeddu fod y ffasiwn ddyfais yn bod. Wedi dysgu dweud yr amser, prynodd un ei hun, a dylifai trigolion yr ardal i’w fwthyn i weld cloc cynta’r cylch! – Neu’r stori am y niferoedd a âi i Fferm Llwyndaddu er mwyn gweld sut i wneud paned o de, a’i flasu am y tro cyntaf erioed!

Mae Morfydd Thomas yn cofio holl gyffro ymweliad y bws cyntaf â Phentyrch ym Mis Mai 1925, a thaith ynddo o Ben-tyrch i’r pwerdy yn costio swllt a phump. Ac yna, bum mlynedd yn ddiweddarach, dyfodiad trydan i’r pentre, i ddisodli’r lampau olew a’r canhwyllau wnaeth gymaint i ddiddosi’r gaeafau hir a thywyll iddi hi a’i chyfoedion.

Pleser digymysg oedd gwrando ar Mrs Thomas yn rhaffu enwau tai a heolydd y pentre: Penygarn, Pentir Hir, Llwyndaddu, Tŷ Crydd, Penuel Fach, Berthlwyd, Gelli Dawel, Cae Wal, Cefn Bychan, Perthi Bach, Tynywaun. Mae ei hafiaith a’i thafodiaith yn tystio’n ddigamsyniol i’r llewyrch a fu ar y Gymraeg yn y pentre, a does neb yn falchach na hi o weld yr adferiad presennol.

Bu Morfydd a Windsor Thomas yn cadw aelwyd gynnes, groesawus, lawen yma am dros hanner canrif. Fe dystia pawb i’w hiwmor iach, eu lletygarwch a’u caredigrwydd di-ben-draw.

Mae Mrs Thomas yn cael trafferth i symud erbyn hyn, Oherwydd anhwylder ar ei choes, ac wedi tr treulio blwyddyn a hanner mewn ysbytai. Mae hi ar hyn o bryd yn yr ysbyty ym Mhontypridd, ac mae ymweliadau gan ei theulu a’i ffrindiau wedi bod yn gysur mawr. Bu colli ei gŵr dair blynedd yn ôl yn ergyd drom iddi a’i hanhwylder hithau’n prysur waethygu. Ni fynnai driniaeth ysbyty ar y pryd am y teimlai fod rhaid iddi ofalu am y ci bach a olygai gymaint i’w gŵr. Bu Ki-Ki yn gwmni ffyddlon iddi yn ei galar, a phan fu farw’r ci, teimlai Mrs Thomas o’r diwedd ei bod hi’n hen bryd iddi roi sylw i’w anhwylderau ei hun.

Bu’n amhosib sôn am Morfydd Thomas heb sôn am Bentyrch. Mae hi’n ymgorfforiad o bethau gorau’r pentre, ac yn meddwl y byd o’r lle. Ac mae’n braf cael dweud fod pawb sy’n ei hadnabod, yn hen ac ifanc, yn meddwl y byd ohoni hithau, ac yn fawr eu parch a’u hedmygedd ohoni.

Gorffennol Gwaelod y Garth

GORFFENNOL PENTREF YN AIL-YMDDANGOS.   Elin Jones.

Cyhoeddwyd yn Tafod Elái mis Medi 1989 

Un o’r mannau harddaf yn ein hardal yw gwarchodfa natur Cwm Llwydrew, rhwng pentrefi Pentyrch a Gwaelod y Garth. Gorwedd y gwarchodfan yn y pant rhwng y Garth ei hun a’r Garth Bach, ac yno cewch ymgolli yn hyfrydwch natur, gwrando ar drydar yr adar, a chael eich swyno gan liwiau cyfnewidiol y tymhorau, a hyn i gyd o fewn i ychydig o filltiroedd o’r M4 a Chaerdydd. Ond y rhyfeddod mwyaf, wrth gwrs, yw hanes y cwm. Bedd hen ddiwydiant ydyw. Hen dramffyrdd yw llawer o’r llwybrau coediog tomenni sbwriel yr hen weithfeydd yw’r bryncynnau; a ffrwynwyd y nant fach brysur er sicrhau pŵer i’r gweithfeydd fu’n ymestyn o’r cwm ar hyd lan yr afon, lle saif tai Heol-y-nant a Heol Berry heddiw.

Gorwedd Cwm Llwydrew ar ffin ddeheuol maes glo De Cymru, lle mae’r gwythiennau glo a haearn yn brigo i’r wyneb ac felly yn hawdd i’w gweithio. O ganlyniad, bu dynion yn crafu’r mwynau o’r ddaear ers canrifoedd – ers yr Oes Efydd, mae’n bur debyg. Bu’r Rhufeiniaid yn cloddio yn ardal Machen, ardal debyg iawn o ran ei daeareg, ac y mae’n bosibl eu bod yn gweithio yma hefyd. Datblygodd diwydiant modern yn gynnar iawn yma. Yn ôl Iolo Morgannwg, codwyd dwy ffwrnais haearn – yr Isaf a’r uchaf – ym mhlwyf Pentyrch yn amser y frenhines Elisabeth 1. Gwyddwn i ddiwydiant haearn De Cymru ddatblygu’n gyflym iawn yn y blynyddoedd hynny. Roedd galw cynyddol am haearn, a daeth Saeson ac Almaenwyr i’n hardal ni i chwilio am fannau addas, am fod hen ardaloedd traddodiadol y diwydiant haearn yn Lloegr yn brin o goed, tanwydd hanfodol y ffwrnais haearn yn y dyddiau hynny. Sefydlwyd nifer o weithfeydd haearn, a chwympwyd fforestydd De Cymru i fwydo’r ffwrnesi, fel y mae’r faled enwog am Goed Glyn Cynon yn ein hatgoffa

Llawer bedwen las ei chlog
(Ynghrog y bytho’r Saeson!)
Sydd yn danllwyth mawr o dân
Gan wŷr yr haearn duon…  

 Roedd Cwm Llwydrew’n ddelfrydol o safbwynt haearn feistr o’r cyfnod hwnnw. Digon o fwyn haearn, a hynny’n agos i’r wyneb, digon o galchfaen hefyd (pwysig lawn i’r broses o doddi haearn), digon o goed a digon o ddŵr – angenrheidiol i gael pŵer i’r gweithfeydd. Mantais arall oedd bod yr ardal mor agos i’r môr ffactor bwysig mewn cyfnod pan ddefnyddid ceffylau pwn i gario nwyddau. Haws o lawer gludo haearn mewn llongau i Fryste neu i borthladdoedd prysur de Lloegr – neu hyd yn oed ymhellach… Mae’r dystiolaeth gyfoes sy’n ategu honiadau Iolo i’w chael mewn cwyn i’r llywodraeth yn 1574. Roedd gan ddyn o’r enw Ralph Hogge fonopoli ar y busnes o gynhyrchu magnelau, a chwynodd fod Edmund Mathew, perchennog ffwrneisi haearn Pentyrch, yn cynhyrchu gynnau mawrion yno, yn gwbl anghyfreithlon, a, mwy na hynny, yn eu hallforio, efallai i Sbaen. Honnodd fod swyddogion porthladd Caerdydd – pentref bach tlawd yn y dyddiau hynny – yn ofni gwrthsefyll dyn cyfoethog fel Mathew. Parhaodd y cwyno – a’r busnes hefyd, mae’n debyg – am flynyddoedd, prawf sicr o aneffeithiolrwydd y llywodraeth yn y cyfnod hwnnw i sicrhau bod trigolion ardaloedd anghysbell yn cadw’r gyfraith oni bai bod teuluoedd pwysig yr ardaloedd hynny yn cydweithio gyda’r llywodraeth. Mae’n bur debyg i’r ffwrneisi losgi, i’r peiriannau droi, i’r gefeiliau gynhyrchu eu magnelau, ac i’r ceffylau eu cludo i’r llongau yng Nghaerdydd ar hyd teyrnasiad Elisabeth. Ai cynnyrch gweithfeydd Pentyrch oedd rhai o’r gynnau ar longau’r Armada, efallai? 

Yn 1602, beth bynnag, gorchmynnodd y llywodraeth Mathew i gau ei ffwrneisi, am iddo gynhyrchu, ac allforio, tua 150 o dunelli o fagnelau ers 1582, pan waharddwyd allforion o’r math. Yn 1609 sefydlwyd comisiwn arbennig i ymchwilio i’r mater. Dywedodd Mathew wrth y Comisiwn iddo gynhyrchu gynnau yn ei weithfeydd ym Mhentyrch a‘ un adeg, ond bod y gweithfeydd bellach wedi eu prydlesu i fasnachwr o Gaerdydd, Peter Samyne (neu Semayne). Cadarnhawyd hynny gan Samyne, a dywedodd iddo rentu’r gweithfeydd oddi wrth Mathew tua naw mlynedd yn gynharach (tuag amser gwaharddiad 1602, efallai?). Yn dilyn yr ymchwiliad hwn, penderfynodd Mathew werthu ei diroedd yn Radur a Phentyrch, a symud i fyw yn Iwerddon – ‘am ei iechyd’ efallai!

Yn ôl pob tebyg, parhaodd Samyne gyda’r hen fusnes, oherwydd pan ymchwiliodd y Cyfrin Cyngor i allforion anghyfreithlon o fagnelau yn 1616, gorchmynnon nhw ddistrywio ffwrneisi Samyne. Nid oes cyfeiriadau pellach at weithfeydd haearn Pentyrch, ac felly mae’n bur debyg i orchmynion y llywodraeth gael eu gweithredu y tro hwn – neu i’r busnes gau o’i hunan.

Ond nid dyna ddiwedd gweithio haearn yn yr ardal. Pan ddechreuodd y chwyldro diwydiannol mawr yn Ne Cymru tua chanol y ddeunawfed ganrif, daeth y diwydianwyr, yr haearn-feistri a’r entrepreneurs yn ôl i Waelod-y-garth ac i Gwm Llwydrew. Ail-sefydlwyd gwaith haearn yno yn 1740. Ychydig a wyddom am ei hanes yn y ddeunawfed ganrif, ond yn 1805 gwerthwyd y ffwrneisi a’r gefeiliau i gwmni Harford, Partridge o Fryste, oedd eisioes yn berchen ar waith tun Melingriffith a gweithfeydd haearn eraill yn Ne Cymru. Yn 1810 gwerthwyd gweithfeydd Pentyrch a Melingriffith i Richard Blakemore, ac aeth ati i greu uned ddiwydiannol gref, gyda’r gweithfeydd haearn yn cynhyrchu nwyddau ar gyfer y gweithfeydd tun.

Cododd ffwrneisi chwyth (y rhai a welir yn y llun), a melinau a gefeiliau. Sefydlwyd ffatri brics ychydig i’r gogledd. Adeiladwyd tai i’r swyddogion a’r gweithwyr, a rhwydwaith o dramffyrdd i gysylltu’r gweithfeydd gyda’i gilydd a gyda’r pyllau lle cloddid y calchfaen, y mwyn haearn a’r glo a ddefnyddid bellach i doddi’r mwyn haearn. Ffynnodd y gweithfeydd yn ystod hanner cyntaf yr 19eg ganrif, ond, fel gweithfeydd eraill De Cymru, dirywio a wnaethant yn ystod ail hanner y ganrif, pan ddarganfuwyd bod mwyn haearn De Cymru yn anaddas i’r dulliau diweddaraf o weithio haearn a dur.

Gosodwyd gweithfeydd Melin-griffith a Phentyrch ar werth yn 1881, ond er i fasnachwr o Lerpwl brynu gwaith Melingriffith, doedd dim diddordeb ganddo yng ngwaith Pentyrch, a dychwelodd hwnnw i feddiant y tir-berchennog. Llwyddodd i rentu’r gwaith, mae’n debyg, oherwydd ceir tystiolaeth bod un ffwrnais chwyth yn gweithio tan 1885. Parhawyd i gynhyrchu llenhaearn (‘sheet-iron‘) yn y gweithfeydd, er yn achlysurol, ond daeth hynny i ben hefyd tua 1915. Aelwydydd oer sydd i’w gweld yn y llun, felly, a dynnwyd tua 1908.

Rhydd y llun argraff arbennig o dda o olwg y gweithfeydd ar ddiwedd eu bywyd — ac am rai blynyddoedd wedi hynny. Roeddynt yn sefyll o hyd tan ddiwedd yr ail ryfel byd, ac yn fan chwarae boblogaidd iawn gan blant y pentref, a hoffai guddio (yn enwedig os oeddynt mewn trwbwl!) yn y twneli a’r fuyeres (pibau awyr y ffwrnesi chwyth). Yna, ar ddiwedd yr ail ryfel byd, penderfynodd y cyngor lleol glirio’r safle, ac adeiladu tai cyngor yno. Aethpwyd ati i wneud hynny, a diflannodd yr hen weithfeydd o’r golwg. Ond nid am byth. 

Yn ystod mis Mai a Mehefin 1989, dechreuodd cwmni Lovell Partnership Homes Ltd. ar y gwaith o adeiladu fflatiau i’r henoed ar y darn o dir segur rhwng cefn Heol Berry a’r stad newydd o dai ger yr afon. Wrth iddynt glirio’r safle, agorodd twll yn y ddaear na ellid ei lenwi. Aethant ai i gloddio’r twll, a darganfod dwy o ffwrneisi’r hen waith haearn, wedi eu cuddio o’r golwg ers deugain mlynedd, ond heb eu distrywio. Galwodd swyddogion y cwmni am gymorth arbenigwyr pennaf yn y maes hwn, Philip Riden o Goleg y Brifysgol yng Nghaerdydd. Nid yw ffwrneisi haearn y ganrif ddiwethaf – na hyd yn oed rhai’r ddeunawfed ganrif – yn bethau anghyffredin ym myd archaeoleg ddiwydiannol De Cymru. Ond yr oedd cyfrinach bellach gan y ffwrneisi hyn. Wrth gloddio, darganfuwyd rhan o ffwrnais gynharach fyth. Adeiladwyd y ffwrnais orllewinol (yr un ar y chwith yn y llun) o gwmpas ffwrnais o’r all ganrif ar bymtheg neu’r ganrif flaenorol – un o ffwrneisi gwreiddiol hen waith anghyfreithlon Edmwnd Mathew, yn ôl pob tebyg. Syfrdanwyd yr archeolegwyr, ac aethant ati i’w chofnodi’n fanwl iawn. Prin iawn, iawn yw enghreifftiau o ffwrneisi haearn o’r cyfnod hwnnw. Wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen, darganfuwyd mwy a mwy o olion gweithfeydd yr unfed ganrif ar bymtheg, darganfyddiad hynod o bwysig wrth geisio datrys hanes gweithfeydd haearn y cyfnod hwnnw. 

Ond darganfod er mwyn distrywio, gwaetha’r modd. Bydd cwmni Lovell’s yn gwneud eu gorau i ddiogelu a chadw peth o’r safle, ond gyda’r ffwrneisi, a rhai o’r gweddillion eraill, rhaid eu distrywio er mwyn eu hastudio, ac er mwyn diogelu’r safle. Byddai astudiaeth bellach yn golygu blwyddyn o waith, llawer o arian, a hefyd digolledu’r cwmni, a gafodd ganiatâd cynllunio (a sicrwydd nad oedd dim ar ôl o’r hen weithfeydd) gan Gyngor Taf-Elái.

Gobaith yr Ymddiriedolaeth Archeolegol yw cyhoeddi llyfr am y gweithfeydd, fel y bo modd i bawb ddysgu mwy amdanynt. Gobaith haneswyr ac archeolegwyr yw y bydd Cyngor Taf Elái’n meddwl yn ddwysach cyn rhoi caniatâd cynllunio arall i ddatblygu ardal o bwysigrwydd hanesyddol arbennig iawn. Soniodd Iolo am ddwy ffwrnais ym Mhentyrch. Ble oedd – neu ble mae – y llall? Apeliwyd yn ddiweddar ar Gyngor Gymuned Pentyrch i gomisiynu ymchwiliad manwl i archaeoleg yr ardal, rhag ofn i sefyllfa debyg ddigwydd eto, ac i ni ddistrywio, yn ein hanwybodaeth, olion prin gorffennol unigryw’r ardal hanesyddol hon.

Elin M. Jones.